Beth yw Traveline Cymru?

Traveline Cymru yw’r gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn cael ein cyllido gan Lywodraeth  Cymru, a’n pwrpas ydy cynnig ‘siop un alwad’ am wybodaeth teithio yng Nghymru, sy’n cynnwys bws, coets, trên, awyren a fferi. Rydym hefyd yn barod i helpu os ydych am ddefnyddio’ch car, neu gerdded neu feicio yr holl fordd neu ran o’ch siwrnai. 

Gwnawn hyn drwy ddarparu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd sy’n teithio gydag amserlenni cysylltiedig a diduedd fel ag y cyhoeddir nhw gan weithredwyr bysiau, trenau a choetsis.

Sut y gallaf gysylltu â Traveline Cymru?

Drwy ffonio …
Gellwch ein ffonio ni ar 0871 200 22 33 (mae galwadau’n costio 10c  y funud, yn ogystal â 6ch o ffi cysylltu o linell dir BT, gall rhwydweithiau eraill fod yn wahanol a gall ffonau symudol fod cryn dipyn yn uwch).
Mae ein asiantwyr yn y ganolfan alw, a leolwyd yng Ngogledd Cymru, ar gael rhwng 7yb a 10yh yn ddyddiol trwy gydol y flwyddyn. Byddwn yn darparu gwasanaeth cyfyngedig ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, G?yl San Steffan, Nos Calan a Dydd Calan.

Trwy gyfrwng y Rhyngrwyd …
Ar ein gwefan, rydym yn darparu nifer o ddulliau i chi gael yr wybodaeth yr ydych ei hangen:

Cynllunio fy Nhaith
Mae’r dudalen ‘Cynllunio fy Nhaith’ ar gyfer pobl nad ydynt yn gwybod holl fanylion eu siwrnai. Yma, gellwch fewnbynnu’r man cychwyn, lle’r ydych chi am fynd, y dyddiad a bras amcan o’r amser teithio ac yna byddwch yn derbyn pob opsiwn posibl ar gyfer eich taith.

Chwilio Amserlen Bws

Mae ‘Chwilio Amserlen Bws’ ar gyfer y bobl sy’n gwybod rhif eu bws, ond sydd angen gwybod yr amserau. Yma, gellwch fewnbynnu rhif y bws yn y blwch chwilio a bydd modd i chi weld yr amserlen lawn ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.

Angen gwybod amser eich bws nesaf?

Yn ogystal â chysylltu Traveline Cymru dros y ffôn neu drwy'r rhyngrwyd, gellwch bellach dderbyn amserau bysiau ar eich ffôn symudol, trwy ein Aps Traveline NextBuses a Traveline.txt RHAD AC AM DDIM i'r iPhone ac Android.

Aps RHAD AC AM DDIM i'ch Cadw'n Symudol!

Mae Aps rhad ac am ddim Traveline Cymru ar gyfer yr iPhone ac Android yn galluogi defnyddwyr i ganfod gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ar gyfer Cymru gyfan mewn un man.

• Cynlluniwch eich taith o A i B
• Gwiriwch rybuddion teithio
• Dewch o hyd i'ch arhosfan bws ar fap, ac arbed y rhai yr ydych yn eu defnyddio’n gyson.
• Chwilio am wybodaeth Cludiant Cymunedol neu Barcio a Theithio 

Am wybodaeth bellach, neu i lawr lwytho'r Ap, ymwelwch â'r App Store neu Android Market.

NextBuses.mobi

Gellwch hefyd ddefnyddio ein safle rhynrwyd symudol i ganfod amserau bysiau eich arhosfan bws drwy ddefnyddio gwasanaeth Bws Nesaf Traveline.

 

Cam 1

Ewch i http://nextbuses.mobi/ ar eich gwe-borwr symudol (i dderbyn llyfrnod ar gyfer y gwasanaeth hwn, tecstiwch ‘traveline’ i 84268).

Cam 2

Yna, byddwch yn gallu canfod eich arhosfan bws mewn 3 ffordd:

• Mewnbynnwch enw stryd, enw arhosfan neu gôd post a phwyso ‘chwilio’. Gellwch fireinio chwiliad trwy ddewis tref neu ardal
• Cliciwch ar arhosfan a welwyd eisoes (os ydych wedi defnyddio’r safle o’r blaen)
• Edrychwch ar arosfannau gerllaw (dim ond os oes gennych y fersiwn ‘adnabod-lleoliad’ (location-aware).

Cam 3

Dewiswch enw arhosfan o’r canlyniadau.

Bydd y safle’n dangos yr ymadawiadau nesaf o’r arhosfan hwnnw. Bydd gwybodaeth fyw yn cael ei dangos lle bo hynny’n bosibl, fel arall, darperir amserau rhestredig.

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim oni bai am unrhyw ffioedd data arferol a godir gan eich gweithredwr ffôn symudol (cysylltwch â’ch gweithredwr am wybodaeth).

Am wybodaeth bellach am y gwasanaeth hwn, ewch i www.traveline.info/nextbuses.htm.

Traveline.txt

Trwy ddefnyddio Traveline.txt gellwch dderbyn amserau bysiau’n uniongyrchol i’ch ffôn symudol ar ffurf neges destun. Dyma sut!

Cam 1

Mae yna mwy na 21,000 o arosfannau bysiau yng Nghymru – ac mae gan bob un ohonynt gôd unigryw 7 llythyren. I ganfod côd eich arhosfan bws, bydd angen i chi:

• Edrych ar yr arhosfan bws – bydd y wybodaeth y byddwch ei hangen ar bob arhosfan yng Nghymru
• Ymwelwch â gwefan Traveline Cymru ar www.traveline-cymru.info
• Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 (bydd galwadau’n costio 10c y funud yn ogystal â 6ch o ffi-cysylltu o brif linell BT, gall rhwydweithiau eraill a ffonau symudol fod cryn dipyn mwy)

Cam 2

Anfonwch côd yr arhosfan bws fel neges destun i rif testun traveline 84268 (sydd yr un gôst â’ch tariff arferol). Bydd yr ymateb yn rhad ac am ddim!

Os ydych am dderbyn ymateb yn Gymraeg, ychwanegwch ofod yna’r lythyren C ar ddiwedd y côd arhosfan bws.

I ddychwelyd i’r Saesneg, ychwanegwch ofod a’r lythyren E ar ddiwedd côd yr arhosfan bws.

Cam 3

Yna, byddwch yn derbyn neges destun yn rhad ac am ddim o fewn 30 eiliad yn dangos:

• Amserau’r pedwar bws nesaf a fydd yn aros yn yr arhosfan penodol hwnnw
• Rhif gwasanaeth pob bws unigol
• Cyrchfan pob bws unigol

Bydd gwybodaeth amser real yn cael ei ddarparu pan fo hynny’n bosibl, fel eich bod yn gwybod yr union amser y bydd eich bws nesaf yn cyrraedd!

Os na fydd unrhyw fws yn rhedeg ar ôl yr amser y byddwch yn anfon neges destun, byddwch yn derbyn ymateb sy’n cynnwys rhif ffôn cwmni tacsi sydd wedi’i gymeradwyo gan yr Adran Drafnidiaeth.

Cofiwch gadw côd yr arhofan bws erbyn y tro nesaf!

Angen Gwybodaeth Bellach?

Edrychwch ar dudalen y cwestiynau mwyaf cyffredin neu, ffoniwch ein canolfan alwadau ar 0871 200 2233, neu e-bostiwch ni ar: feedback@travelinecymru.info

Fel arall, gellwch ysgrifennu atom yn:

Traveline Cymru
PO Box 83
Caerdydd CF11 1NA