cartref > Beth yw Traveline Cymru?

Beth yw Traveline Cymru?

Traveline Cymru yw’r gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn cael ein cyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a’n pwrpas ydy cynnig ‘siop un alwad’ am wybodaeth teithio yng Nghymru, sy’n cynnwys bws, coets, trên, awyren a fferi. Rydym hefyd yn barod i helpu os ydych am ddefnyddio’ch car, neu gerdded neu feicio yr holl fordd neu ran o’ch siwrnai. 

Gwnawn hyn drwy ddarparu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd sy’n teithio gydag amserlenni cysylltiedig a diduedd fel ag y cyhoeddir nhw gan weithredwyr bysiau, trenau a choetsis.

Sut y gallaf gysylltu â Traveline Cymru?

Drwy ffonio …
Gellwch ein ffonio ni ar 0871 200 22 33 (mae galwadau’n costio 10c  y funud, yn ogystal â 6ch o ffi cysylltu o linell dir BT, gall rhwydweithiau eraill fod yn wahanol a gall ffonau symudol fod cryn dipyn yn uwch).
Mae ein asiantwyr yn y ganolfan alw, a leolwyd yng Ngogledd Cymru, ar gael rhwng 7yb a 10yh yn ddyddiol trwy gydol y flwyddyn. Byddwn yn darparu gwasanaeth cyfyngedig ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, G?yl San Steffan, Nos Calan a Dydd Calan.

Trwy gyfrwng y Rhyngrwyd …
Ar ein gwefan, rydym yn darparu nifer o ddulliau i chi gael yr wybodaeth yr ydych ei hangen:

Cynllunio fy Nhaith
Mae’r dudalen ‘Cynllunio fy Nhaith’ ar gyfer pobl nad ydynt yn gwybod holl fanylion eu siwrnai. Yma, gellwch fewnbynnu’r man cychwyn, lle’r ydych chi am fynd, y dyddiad a bras amcan o’r amser teithio ac yna byddwch yn derbyn pob opsiwn posibl ar gyfer eich taith.

Chwilio Amserlen Bws
Mae ‘Chwilio Amserlen Bws’ ar gyfer y bobl sy’n gwybod rhif eu bws, ond sydd angen gwybod yr amserau. Yma, gellwch fewnbynnu rhif y bws yn y blwch chwilio a bydd modd i chi weld yr amserlen lawn ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.

Amserau Bysiau drwy Neges Destun
Map yw’r dudalen ‘Amserau Bysiau trwy Neges Destun’ sy’n eich galluogi i chwilio am arhosfan bws penodol a chanfod pa fysiau sy’n teithio yno ac oddi yno. 

Fel rhan o’r wybodaeth, byddwch yn derbyn côd arhosfan bws (e.e. VGLDJDG), sydd wrth ei anfon fel neges destun i 84268 (am bris neges destun arferol) bydd yn anfon ateb rhad ac am ddim, gyda manylion y pedwar bws nesaf i aros yn yr arhosfan hwnnw. Lle mae Gwybodaeth Amser Real ar gael, bydd yr wybodaeth hon yn Amser Real, sy’n golygu eich bod yn gwybod yr union amser y bydd eich bws yn cyrraedd!

Angen Gwybodaeth Bellach?

Edrychwch ar dudalen y cwestiynau mwyaf cyffredin neu, ffoniwch ein canolfan alwadau ar 0871 200 2233, neu e-bostiwch ni ar: feedback@travelinecymru.info

Fel arall, gellwch ysgrifennu atom yn:

Traveline Cymru
PO Box 83
Caerdydd CF11 1NA