Angen gwybod amser eich bws nesaf?
Yn ogystal a chysylltu â Traveline Cymru dros y ffôn neu drwy’r Rhyngrwyd, erbyn hyn gellwch dderbyn amserau bysiau ar eich ffôn symudol drwy Traveline.txt a Bws Nesaf Traveline.
Trwy ddefnyddio Traveline.txt gellwch dderbyn amserau bysiau’n uniongyrchol i’ch ffôn symudol ar ffurf neges destun. Dyma sut!
Cam 1
Mae yna mwy na 21,000 o arosfannau bysiau yng Nghymru – ac mae gan bob un ohonynt gôd unigryw 7 llythyren. I ganfod côd eich arhosfan bws, bydd angen i chi:
• Edrych ar yr arhosfan bws – bydd y wybodaeth y byddwch ei hangen ar bob arhosfan yng Nghymru
• Ymwelwch â gwefan Traveline Cymru ar www.traveline-cymru.info
• Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 (bydd galwadau’n costio 10c y funud yn ogystal â 6ch o ffi-cysylltu o brif linell BT, gall rhwydweithiau eraill a ffonau symudol fod cryn dipyn mwy)
Cam 2
Anfonwch côd yr arhosfan bws fel neges destun i rif testun traveline 84268 (sydd yr un gôst â’ch tariff arferol). Bydd yr ymateb yn rhad ac am ddim!
Os ydych am dderbyn ymateb yn Gymraeg, ychwanegwch ofod yna’r lythyren C ar ddiwedd y côd arhosfan bws.
I ddychwelyd i’r Saesneg, ychwanegwch ofod a’r lythyren E ar ddiwedd côd yr arhosfan bws.
Cam 3
Yna, byddwch yn derbyn neges destun yn rhad ac am ddim o fewn 30 eiliad yn dangos:
• Amserau’r pedwar bws nesaf a fydd yn aros yn yr arhosfan penodol hwnnw
• Rhif gwasanaeth pob bws unigol
• Cyrchfan pob bws unigol
Bydd gwybodaeth amser real yn cael ei ddarparu pan fo hynny’n bosibl, fel eich bod yn gwybod yr union amser y bydd eich bws nesaf yn cyrraedd!
Os na fydd unrhyw fws yn rhedeg ar ôl yr amser y byddwch yn anfon neges destun, byddwch yn derbyn ymateb sy’n cynnwys rhif ffôn cwmni tacsi sydd wedi’i gymeradwyo gan yr Adran Drafnidiaeth.
Cofiwch gadw côd yr arhofan bws erbyn y tro nesaf!
Bws Nesaf Traveline
Gellwch hefyd ddefnyddio ein safle rhynrwyd symudol i ganfod amserau bysiau eich arhosfan bws drwy ddefnyddio gwasanaeth Bws Nesaf Traveline.
Cam 1
Ewch i nextbuses.mobi ar eich gwe-borwr symudol (i dderbyn llyfrnod ar gyfer y gwasanaeth hwn, tecstiwch ‘traveline’ i 84268).
Cam 2
Yna, byddwch yn gallu canfod eich arhosfan bws mewn 3 ffordd:
• Mewnbynnwch enw stryd, enw arhosfan neu gôd post a phwyso ‘chwilio’. Gellwch fireinio chwiliad trwy ddewis tref neu ardal
• Cliciwch ar arhosfan a welwyd eisoes (os ydych wedi defnyddio’r safle o’r blaen)
• Edrychwch ar arosfannau gerllaw (dim ond os oes gennych y fersiwn ‘adnabod-lleoliad’ (location-aware).
Cam 3
Dewiswch enw arhosfan o’r canlyniadau.
Bydd y safle’n dangos yr ymadawiadau nesaf o’r arhosfan hwnnw. Bydd gwybodaeth fyw yn cael ei dangos lle bo hynny’n bosibl, fel arall, darperir amserau rhestredig.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim oni bai am unrhyw ffioedd data arferol a godir gan eich gweithredwr ffôn symudol (cysylltwch â’ch gweithredwr am wybodaeth).
Am wybodaeth bellach am y gwasanaeth hwn, ewch i www.traveline.info/nextbuses.htm.


