Bwcabus – Cysylltu Dyffryn Teifi
Cwestiwn: Beth yw'r ffordd newydd o gysylltu Dyffryn Teifi ag ardaloedd eraill?
Ateb: BWCABUS!
Beth sy'n gallu eich helpu i leihau eich ôl troed carbon?
Ateb: BWCABUS!
NB: Changes to the Bwcabus service from 5th June
Y mwelwch â'n llu o atyniadau... Bwcabus
Byddwch Yn Annibynnol. Rhowch Gynnig ar Bwcabus
Enghraifft o Brisiau Teithiau Bwcabus
Bwcabus yw'r gwasanaeth bws lleol, arloesol, cwbl hygyrch sy'n ymateb i'r galw ac sy'n gweithredu yn Nyffryn Teifi. Mae'r gwasanaeth wedi'i deilwra i anghenion y teithwyr drwy weithredu mewn ymateb i geisiadau ymlaen llaw am gludiant . Mae'r gwasanaeth yn gweithredu rhwng 7am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn yr ardal a ddangosir ar y map isod:
Mae'r gwasanaeth yn galluogi pobl i deithio rhwng trefi a phentrefi lleol neu gysylltu â gwasanaeth bws 460 Caerfyrddin – Aberteifi – Caerfyrddin bob awr mewn canolfannau lleol.
Defnyddir technoleg i fwyhau effeithlonrwydd cerbydau Bwcabus.
Sut ydw i'n archebu gwasanaeth Bwcabus?
Mae angen i deithwyr archebu teithiau ymlaen llaw, a gellir gwneud hyn drwy gysylltu â'n canolfan alwadau ddwyieithog drwy ffonio 01239 801 601. Mae'r ganolfan alwadau yn agored o 7am hyd 8pm, 7 diwrnod yr wythnos. Mae'n rhaid archebu teithiau bore erbyn 8pm ar y diwrnod cyn teithio a theithiau prynhawn erbyn 11.30am ar ddiwrnod y daith. Gall teithiau gael eu harchebu 28 diwrnod ymlaen llaw a gall teithwyr archebu mwy nag un daith reolaidd. Mae pob taith yn ddibynnol ar y gwasanaeth sydd ar gael, a byddant yn gweithredu ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae'r gwasanaeth ar gael ar gyfer pawb. Pa un a oes angen i chi gyrraedd gwaith, hyfforddiant, gofal iechyd neu wasanaethau lleol, gall Bwcabus helpu. Mae'r cerbydau arbenigol newydd yn darparu llawr isel a mynediad hawdd ac mae ganddynt le ar gyfer bygis a chadair olwyn.
Mae gan Bwcabus hefyd nifer o deithiau sefydlog sy'n gweithredu ar ddiwrnodau penodol. Nid oes angen archebu'r teithiau sefydlog ymlaen llaw. Gallwch droi i fyny a dal y bws fel y byddech yn ei wneud ar gyfer gwasanaeth bws arferol.
Wedi blino ar gostau cynyddol rhedeg car? Bwcabus …. Y ffordd arall a mwy ecogyfeillgar o deithio.
Sut ydw i'n cael rhagor o wybodaeth am wasanaeth Bwcabus?
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth Bwcabus, ffoniwch 01239 801 601 bwcabus@sirgar.gov.uk.
Cwestiynau A Ofynnir Yn Fynych

Gweithredir y gwasanaeth Bwcabus mewn partneriaeth rhwng Awdurdodau Lleol Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac nid yw'n cael ei redeg gan Traveline Cymru.



