Cludiant sy’n Ymateb i’r Gymuned ac i’r Galw

Mae Cludiant Cymunedol (CC) yn darparu mynediad i ystod eang o wasanaethau a chyfleoedd i’r rheiny na fedrant ddefnyddio cludiant cyhoeddus traddodiadol oherwydd oed, lleoliad, anabledd neu ffactorau eraill. Mae CC yn llenwi’r bylchau yn y rhwydwaith cludiant cyhoeddus, gan gynnig atebion hyblyg lle nad yw cludiant cyhoeddus confensiynol yn ddilys neu lle mae’r farchnad wedi methu.  Mae cynlluniau CC yn bodoli mewn bob lliw a llun, ond darparir pob gwasanaeth CC ar sail nad-er-elw. Gellir eu gweithredu gan grwpiau cymunedol anffurfiol, elusennau, cwmnïau nad-er-elw, mentrau cymdeithasol a chyrff cyhoeddus fel Awdurdodau Lleol.  

Mae mynediad gwael i wasanaethau a chyfleoedd yn fater allweddol i sawl cymuned ar draws Cymru, gyda phwyslais penodol ar bobl oedrannus ac anabl a’r rheiny sy’n byw mewn ardaloedd gwledig dyfnach. Mae llawer o wasanaethau CC yn defnyddio cerbydau arbenigol ac yn darparu cymorth ychwanegol i ddefnyddwyr cadair olwyn a phobl ag anawsterau symudedd eraill. Fel arfer, gofynnir i ddefnyddwyr CC gyfrannu tuag at cost eu siwrne.

Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA) yn elusen sy’n tyfu’n gyflym ac yn darparu cefnogaeth arweinyddiaeth, dysgu a menter i’r sector CC ar draws y DU. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu CTA Cymru i gydnabod ein rôl fel llais cludiant gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru. Ffon: 01792 844290 E-bost: ctawales@ctauk.org

 

Allwedd

  • Pinnau Coch: cynlluniau ceir, galw'r gyrrwr a/neu ddarparwyr cludiant grŵp
  • Pinnau Glas: darparwyr gwasanaethau bws lleol sy'n ymateb i'r galw