Cwestiynau Mwyaf Cyffredin
C. Sut ydw i’n defnyddio’r dudalen Cynllunio Fy Nhaith?
A. Mewnbynnwch eich man cychwyn, pen eich taith, y dyddiad a bras amcan o’r amser yr hoffech deithio, a dewiswch os hoffech deithio gyda bws, coets, trên, fferi, awyren neu gyfuniad o’r pump! Wedi ichi wneud hyn, byddwch yn derbyn amrywiaeth o opsiynau ar gyfer eich taith. Dewiswch yr amser gorau i chi, yna cliciwch y botwm ‘Manylion Taith’ i weld y manylion llawn ar gyfer y daith honno.
C. Sut mae defnyddio Chwilio’r Amserlen?
A. Mewnbynnwch rif y bws yr ydych yn chwilio amdano, dewiswch ddyddiad a bras amcan o’r amser i deithio. Yna, bydd angen i chi gadarnhau eich dewis o amserlen. Yn olaf, bydd modd i chi weld eich amserlen, a gallwch sgrolio i fyny ac i lawr i weld manylion drwy gydol y dydd.
C. Nid wyf yn gallu defnyddio’r Cynlluniwr Taith oherwydd neges sy’n nodi gwall ‘Amser Annilys’. Beth ydw i’n ei wneud yn anghywir?
A. Mewnbynnwch yr amser gan ddefnyddio colon yn unig i wahanu’r rhifau, e.e. 12:20.
C. Sut ydw i’n cynllunio taith y tu allan i Gymru?
A. Os gellir gwneud eich taith ar drên neu goets, gellwch ei chynllunio drwy ddefnyddio gwefan Traveline Cymru. Os yw’n daith sy’n cynnwys bysiau lleol nad ydynt yng Nghymru, ymwelwch â gwefan ‘Transport Direct’ os gwelwch yn dda ar – www.transportdirect.info.
C. Ble ga' i’r ‘Tocyn Mantais Bws Cymreig’?
A. Os ydych chi’n 60 oed neu hyn neu wedi eich cofrestru’n anabl, rydych yn gymwys ar gyfer teithio rhad ac am ddim yng Nghymru, drwy’r cynllun Tocyn Mantais Bws. Mae ffurflenni cais ar gael yn eich Swyddfa Post leol. Fel arall, cysylltwch ag Adran Drafnidiaeth o fewn eich awdurdod lleol os gwelwch yn dda. Gellir canfod dolen at wefan pob awdurdod lleol ar y dudalen ‘Dolenni Defnyddiol’ y wefan hon.
C. Ymhle gaf i ddefnyddio fy ‘Nhocyn Mantais Bws Cymreig’?
A. Ar hyn o bryd gellwch ddefnyddio’r Tocyn Mantais Bws Cymreig ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru yn unig. Ni ellwch ddefnyddio’ch tocyn Cymreig i deithio yn Lloegr, ac ni ellwch ddefnyddio’ch tocyn Seisnig i deithio yng Nghymru.
C. Ymhle gaf i wybodaeth yngl?n â theithio gydag anabledd?
A. Mae Traveline Cymru yn ceisio darparu cyn gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl yngl?n â theithio gydag anabledd. Ymwelwch â’n tudalen ‘Cymorth Pellach i Deithio ar Drafnidiaeth Gyhoeddus’ am ragor o wybodaeth.
C. Ymhle gaf i wybodaeth am brisiau?
A. I gael gwybodaeth am brisiau cysylltwch â’n canolfan alwadau ar 0871 200 22 33. Fel dewis arall, dilynwch y dolenni i wefannau gweithredwyr ar ein tudalen ‘Cymorth Pellach i Deithio ar Drafnidiaeth Gyhoeddus’.
C. Sut ydw i’n gwneud cwyn am gwmni bysiau?
A. I gwyno am wasanaethau bysiau, cysylltwch â Bus Users UK ar 029 2022 1370 os gwelwch yn dda, neu e-bostiwch wales@bususers.org. Ar gyfer cwynion am wasanaethau trenau, cysylltwch â Passenger Focus ar 08453 022 022 os gwelwch yn dda, neu e-bostiwch hello@passengerfocus.org.uk
C. Sut ydw i’n cwyno am Traveline Cymru?
A. Am gwynion yngl?n ag unrhyw un o wasanaethau Traveline Cymru, cwblhewch ein ffurflen adborth ar ein tudalen ‘Cysylltwch’ os gwelwch yn dda a byddwn yn cysylltu’n ôl â chi o fewn pedwar diwrnod gwaith. Fel arall, gellwch gyflwyno’ch cwyn yn ysgrifenedig i:
Traveline Cymru (Cwynion)
Traveline Cymru
PO Box 83
Caerdydd CF11 1NA
C. Sut allaf gynllunio fy nhaith dros y ffôn?
A. Gellwch gysylltu â’n canolfan alwadau ar 0871 200 22 33 rhwng 07:00 a 22:00 yn ddyddiol. Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfyngedig ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, G?yl San Steffan, Nos Calan a Dydd Calan.
C. Faint fydd pris fy ngalwad ffôn i’r ganolfan alwadau?
A. Mae galwadau i’r rhif 0871 200 22 33 yn costio 10c y funud, yn ogystal â 6ch o ffi cysylltu o linell dir BT. Gall rhwydweithiau eraill fod yn uwch a gall ffonau symudol fod cryn dipyn yn uwch. Mae galwad i ganolfan alwadau Traveline Cymru ar gyfartaledd yn para tua 90 eiliad.


