cartref > cymorth pellach i deithio gyda thrafnidiaeth gyhoeddus

Cymorth Pellach i Deithio gyda Thrafnidiaeth Gyhoeddus

Os oes angen cymorth pellach arnoch i wneud eich siwrnai gyda bws, coets neu drên, mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol fydd yn sicrhau bod eich taith yn ddidrafferth!

Cludiant Cymunedol ac Ymateb i Alwad

Mae gwasanaethau ‘Cludiant Cymunedol ac Ymateb i Alwad’ yn wasanaethau bws lleol, sydd wedi’u teilwra i ateb anghenion y teithiwr. Fel rheol, maent yn gweithredu mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau bws cyffredin yn gyfyngedig neu’n anaddas i anghenion teithwyr ac yn gweithio yn debyg i wasanaeth tacsi.

I ganfod mwy am ‘Gludiant Cymunedol ac Ymateb i Alwad’ yng Nghymru. Cliciwch ar y dolenni isod:

Community Transport Association Cymru (CTA Cymru)  
Cwm Cynon   
Gwennol Glannau Dyfrdwy a Wrecsam   
Bwcabus
Ceir Cefn Gwlad
Sir Fynwy   
Casnewydd  

Teithio gydag Anabledd

Nod y dudalen hon yw darparu gwybodaeth ddefnyddiol i deithwyr gydag anabledd. Tra y gwneir pob ymdrech posibl i ddarparu gwybodaeth ar ran y cwmnïau bysiau a threnau yng Nghymru, ni ellir gwarantu’r wybodaeth hon. Cynghorir teithwyr i gysylltu â’r cwmni bysiau neu drenau cyn cychwyn ar eu siwrnai er mwyn cadarnhau unrhyw wybodaeth.

Cynnwys

1. Cael mynediad i wybodaeth Traveline Cymru
2. Hygyrchedd gwybodaeth i ddefnyddwyr bysiau gydag anabledd
3. Gwybodaeth am gymorth mewn gorsafoedd trenau i deithwyr anabl
4. Toiledau i’r anabl wedi’u lleoli’n agos at orsafoedd bysiau a threnau (wedi’u rhestru yn ôl awdurdodau lleol)
5. Manylion cyswllt cwmnïau tacsis sy’n gwasanaethu prif orsafoedd cludiant
6. Dolenni defnyddiol

1. Cael mynediad i wybodaeth Traveline Cymru

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â gofynion yr AA ar gyfer Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefan.
Mae canolfan alwadau Traveline Cymru yn defnyddio system ‘BT Type Talk’ ac mae pob asiant wedi’i hyfforddi i ddefnyddio’r cyfleuster hwn.
Mae gwybodaeth ar gael yn y ganolfan alwadau yngl?n â hygyrchedd arosfannau a gwasanaethau lle bo hynny’n bosibl. 

2. Gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr bysiau gydag anabledd

 
First Cymru  

3. Gwybodaeth am gymorth mewn gorsafoedd trenau i deithwyr gydag anabledd

Mae gan y gorsafoedd canlynol linell gymorth ar 0845 300 3005, lle gellir gofyn am gymorth:
• Caergybi
• Wrecsam Cyffredinol
Awgrymir bod cwsmeriaid yn archebu o leiaf 24 awr cyn teithio os ydynt angen cymorth anabledd.

Mae gan y gorsafoedd canlynol staff ar gael i gynnig cymorth:
• Aberdâr
• Aberystwyth
• Rhydaman
• Bangor
• Bargoed
• Caerffili
• Canol Caerdydd
• Caergybi
• Llandrindod
• Merthyr Tudful
• Castell-nedd
• Cyffordd Twnel Hafren
• Bae Colwyn (yn ystod oriau swyddfa docynnau)
• Llandudno (yn ystod oriau swyddfa docynnau)
• Wrecsam Cyffredinol (yn ystod oriau swyddfa docynnau)
Am wybodaeth mwy manwl yngl?n â pha wasanaethau y mae’r gorsafoedd trenau yn eu darparu, ymwelwch â http://www.arrivatrainswales.co.uk/Home.aspx os gwelwch yn dda.
I ganfod pa weithredwr trenau yr ydych yn teithio gyda nhw, galwch y Gwasanaeth Ymholiadau Trenau Cenedlaethol ar 08457 48 49 50 neu http://www.nationalrail.co.uk/stations/. Maent yn darparu rhif ffôn pob gweithredwr trenau ar gyfer cymorth gydag anabledd.

4. Toiledau i’r anabl wedi’u lleoli’n agos at orsafoedd bysiau, gorsafoedd trenau a phrif safleoedd ymgyfnewid bysiau (wedi’u rhestru yn ôl awdurdodau lleol).

5. Manylion cyswllt cwmnïau tacsis sy’n gwasanaethu prif orsafoedd cludiant
Gellir dod o hyd i’r wybodaeth hon yn http://www.traintaxi.co.uk/.

6. Dolenni Defnyddiol
Comisiwn Hawliau’r Anabl 
Anabledd Cymru   
Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl (DPTAC) 
Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr  
Adran Drafnidiaeth 
Cymdeithas Cludiant Cymunedol  
Tocyn Rheilffordd Pobl Anabl    
Gweithredu ar Epilepsi   
You’re Able  
Hygyrch Sir Benfro    
First Great Western    
Bus Users UK     
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 
Cyngor Dinas Casnewydd 
Cyngor Sir Benfro 
Dinas a Sir Abertawe   
Cyngor Sir Caerfyrddin
Lonydd Glas Sir Benfro 
Bwcabus
Ceir Cefn Gwlad
Eurostar