cartref > gwybodaeth > Cymru Connect

Beth yw Cymru Connect?

Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ydy Cymru Connect, sy’n eich galluogi i deithio i unrhyw le yng Nghymru na fu’n bosibl teithio yno ar drên yn flaenorol, drwy ddefnyddio un tocyn trên.

Sut mae’n gweithio?

O ganlyniad i bartneriaeth rhwng Trenau Arriva Cymru a gweithredwyr bysiau yng Nghymru, mae Cymru Connect yn galluogi’r cwsmer i archebu tocyn mewn gorsaf drên yn y DU* a theithio o bwynt A i bwynt B yng Nghymru gan ddefnyddio cyfuniad o drên a bws gydag un taliad.**

Beth yw’r nodweddion allweddol?

• Mynediad:
Galluogi teithwyr i deithio o unrhyw orsaf drên yn y DU i lefydd nad ydynt ar y rhwydwaith drenau, pan fônt yn archebu eu tocyn trên.

• Amserau Teithio Byrrach:
Galluogi teithwyr i wneud teithiau byrrach ar drên neu fws, yn hytrach na theithiau trên hir ar draws gwlad.

• Tocynnau Rhatach:
Darparu ffordd fwy effeithiol o wneud rhai teithiau i, ac o amgylch Cymru, gan arbed amser ac arian.

Pam ei fod mor bwysig?

Mae Cymru Connect yn cyfuno teithiau trên a bws ar draws Cymru i ddarparu taith gysylltiedig.

Cyn sefydlu Cymru Connect, pe baech yn ymweld â Gorsaf Drenau Abertawe ac yn gofyn am daith i Aberystwyth, byddai’n rhaid i chi fynd ar daith drên 5 awr a 30 munud drwy’r Amwythig.

Gyda Cymru Connect, gellwch deithio o Abertawe i Aberystwyth drwy Gaerfyrddin, gan ddefnyddio trên a’r gwasanaeth coets ‘Traws Cambria’, sy’n cymryd amser llawer cynt o 3 awr 19 munud.

Sut allaf brynu tocyn Cymru Connect?

Gellwch brynu tocyn Cymru Connect mewn unrhyw orsaf yn yr un modd ag y byddech yn prynu unrhyw docyn trên arall.*** Bydd angen i chi gyflwyno rhan ‘trên’ eich tocyn i’r archwiliwr tocynnau ar y trên, a rhan ‘bws’ y tocyn i yrrwr y bws er mwyn cyflawni’r daith.

Sut caf wybod pryd a ble i ddal fy mws a’m trên?

I ganfod amserau ac arosfannau eich taith, bydd angen i chi siarad â Traveline Cymru, y siop-un-alwad am wybodaeth yngl?n â chludiant cyhoeddus yng Nghymru.

Gellwch naill ai ffonio Traveline ar 0871 200 22 33**** a siarad ag asiant dwyieithog, cyfeillgar y ganolfan alwadau neu ymweld â’r wefan www.traveline-cymru.info a chynllunio eich taith ar-lein.

*Ni ellir prynu tocynnau Cymru Connect ar fysiau.
**Mae Cymru Connect ar gael ar lwybrau dethol sydd wedi’u hamlygu ar y map
***Ni ellir prynu tocynnau Cymru Connect ar-lein neu dros y ffôn
****Ar agor 7yb-10yh yn ddyddiol ac eithrio Dydd Nadolig pan fyddwn ar gau. Darperir gwasanaeth cyfyngedig ar Noswyl Nadolig, Dydd San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan. Mae galwadau’n costio 10c y funud yn ogystal ag ychwanegiadau rhwydwaith.

 

cynllunio fy nhaith...






Dewisiadau Mwy

Bus Times on your mobile