Cysylltwch â’r Tîm!
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch ar ein gwefan, neu os mai angen sicrwydd drwy siarad â pherson go iawn yr ydych, beth am gysylltu â’n canolfan alwadau?
Gellwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0871 200 22 33 (mae galwadau’n costio 10c y funud yn ogystal ag unrhyw ychwanegiadau rhwydwaith)
ac mae ar agor yn ddyddiol rhwng 7yb a 10yh*.
Mae ein canolfan wedi’i lleoli yma yng Nghymru ac mae ein holl weithredwyr yn ddwyieithog. Felly, os ydych yn dymuno siarad Cymraeg neu Saesneg, bydd rhywun ar gael i’ch helpu!
Mewn ymchwil boddhad cwsmer yn ddiweddar, roedd 91% o’n cwsmeriaid naill ai wrth eu boddau neu’n fodlon iawn gyda gwasanaeth ein canolfan alwadau.
Felly, os yw eich ymholiad yn un syml neu’n gymhleth, beth am ein ffonio ni?
*Ar gau ar Ddydd Nadolig ac yn gweithredu oriau cyfyngedig ar Noswyl Nadolig, Gyl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan.




