IOLO WILLIAMS – LLYSGENNAD NEWYDD TRAVELINE CYMRU
Penodwyd Iolo Williams yn Llysgennad i Traveline Cymru. Mae Iolo, a
gaiff ei adnabod fel ‘Y Dyn Adar’, yn un o arbenigwyr bywyd gwyllt amlycaf Cymru ac wedi cyflwyno nifer o raglenni natur yn Gymraeg, yn ogystal â bod yn wyneb Sioe Frenhinol Cymru 2009.
Mae Iolo’n cefnogi Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth am gludiant cyhoeddus Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn ymgais i godi proffil y cwmni a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt i gynorthwyo i gynyddu’r defnydd o gludiant cyhoeddus yng Nghymru a gostwng nifer y ceir sydd ar y ffyrdd.
Dywed Iolo: ‘Mae Traveline Cymru’n gwneud gwaith gwych yn darparu’r wybodaeth teithio a thrafnidiaeth gysylltiedig ddiweddaraf i’r cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru ac i ymwelwyr â’r wlad. Yn anffodus, nid oes digon o bobl yn gwybod am y gwasanaethau sydd ar gael, a fy rôl i ydy cynorthwyo i godi eu proffil. Wrth gwrs, fy niddordeb pennaf i ydy diogelu’r amgylchedd hardd a’r bywyd gwyllt sydd yng Nghymru, ac rwy’n cefnogi nod Traveline Cymru i hyrwyddo hynny drwy gael pobl allan o’u ceir a’u hannog i deithio ar fws neu drên, i gerdded neu feicio.’
Mae Traveline Cymru yn falch iawn o gael Mr Williams yn ymwneud â’r gwaith hwn, gan gredu y bydd yn gaffaeliad mawr wrth hyrwyddo’r defnydd o ddulliau amgen o deithio i’r cyhoedd yng Nghymru. Dywed
Cadeirydd Traveline Cymru, Allan Kreppel : ‘Mae Traveline Cymru’n hynod falch fod Iolo wedi cytuno i gefnogi ein hymdrechion i annog y cyhoedd i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, i feicio neu i gerdded yng Nghymru. Ein rôl ni ydy darparu’r wybodaeth y mae’r cyhoedd ei angen i gyflawni eu taith yn llwyddiannus yn y modd y dymunant, a bydd Iolo yn gaffaeliad gwych i’n cynorthwyo i wneud hynny.’
Bydd Iolo’n ymuno â Traveline Tim, masgot lycra gwyrdd y cwmni, i godi proffil gwasanaethau Traveline Cymru yng Nghymru mewn digwyddiadau megis Sioe Frenhinol Cymru, yn ogystal â nifer o
ffeiriau glasfyfyrwyr Prifysgolion Cymru.
Bywgraffiad Iolo
Mae Iolo yn un o gyflwynwyr natur a bywyd gwyllt amlycaf Cymru ac mae wedi cyflwyno nifer lu o raglenni teledu.
Wedi dechrau ei yrfa’n gweithio gyda’r RSPB, yn fuan daeth yn boblogaidd iawn gyda chynhyrchwyr a chyfarwyddwyr a datblygodd i fod yr arbenigwr mwyaf ym maes adar a bywyd gwyllt yng Nghymru.
Mae Iolo yn berson dwyieithog (Saesneg a Chymraeg), a chanddo radd mewn Ecoleg, ac mae Iolo wedi cyflwyno mwy nag wyth cyfres amrywiol ar gyfer y BBC a nifer i S4C hefyd.
Pan nad yw’n teithio’r byd, mae adref gyda’i deulu yng Nghanolbarth Cymru.
Mae Iolo’n cefnogi nifer o elusennau blaenllaw, megis T? Hafan a Mencap. Mae Iolo hefyd yn boblogaidd iawn fel siaradwr gwadd mewn ciniawau.
Mae gwaith teledu Iolo ar gyfer y BBC yn cynnwys:
* Wild Wales
* Wild Winter
* Iolo's Special Reserves
* Iolo's Natural History of Wales
* Iolo's Welsh Safari
* Natural History of Wales
* Border Country
* Welsh Safari
Ac ar gyfer S4C:
* Gwyllt
* Natur Anghyfreithlon
* Crwydro




