cartref > digwyddiadau arbennig > Mae Gorsaf Bysus Abertawe'n newid

Mae Gorsaf Bysus Abertawe'n newid

Mae ailddatblygiad gwerth £11 miliwn ar y gweill ar gyfer gorsaf fysiau canol dinas Abertawe.

Bydd yr orsaf fysiau bresennol sydd ar bwys Canolfan Siopa'r Cwadrant, yn cael ei thrawsnewid yn orsaf fysiau fodern gyda'r cyfleusterau diweddaraf.

Bydd 20 cilfan bws a thri safle coetsis yn yr orsaf fysiau newydd, ynghyd â chyfleusterau modern i deithwyr a mannau aros, mynediad hawdd i'r siopau, swyddfa docynnau a gwybodaeth a chyfleusterau Shopmobility.

Bydd yr orsaf fysiau bresennol yn cau ym mis Mehefin 2009 er mwyn i'r gwaith ddechrau.

Rhagwelir y bydd y prosiect yn para 15 mis a bydd yn golygu newidiadau sylweddol i wasanaethau bysiau yn ystod y cyfnod hwnnw.

Tra bod y gwaith yn parhau, bydd yr orsaf fysiau ar gau yn gyfan gwbl i gerbydau a theithwyr.

Yn ei lle, bydd cyfres o safleoedd bws dros droar draws canol y ddinas (cliciwch yma am fanylion).

Bydd gan bob gwasanaeth un safle bws penodol lle bydd teithwyr yn dal ac yn gadael y bws.

Bydd y trefniadau dros dro hyn yn golygu newid i deithwyr, ond bydd gwybodaeth ar gael ledled y ddinas, drwy daflenni, posteri, gwefannau a chan y cwmnïau bysiau.

Mae Cyngor Abertawe, y cwmnïau bysiau a busnesau chanol y ddinas yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pobl yn gallu dod i mewn i ganol y ddinas, er gwaethaf y newidiadau dros dro.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

To see posters, click here and here.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:
www.canolyddinasabertawe.com
www.firstgroup.com/ukbus/wales/swwales/home
www.veolia-transport.co.uk
www.nationalrail.co.uk

New Swansea Bus Station

cynllunio fy nhaith...






Bus Times on your mobile