Mae gan Traveline Cymru ddelwedd newydd
Mae gan Traveline Cymru ddelwedd newydd
Ers ennill y cytundeb ym mis Hydref, bu Celf Creative a Spindogs yn gweithio’n galed yn ailgynllunio ein gwefan. Mae’r dyluniad newydd, proffesiynol hwn, a lansiwyd yn ddiweddar, yn rhoi gwedd fodern a ffres i Traveline Cymru.
Mae’r wefan newydd yn cadw nifer o’r nodweddion allweddol a oedd gan yr hen wefan, e.e. y cynlluniwr taith, amserlenni bysiau, a rhybuddion teithio ac mae’r cynllun newydd proffesiynol hwn yn hawdd i’w lywio, fel y gall cwsmeriaid ganfod yr wybodaeth sydd ei angen arnynt yn hawdd.
I sicrhau ein bod yn ‘siop-un-alwad’ ar gyfer gwybodaeth teithio, rydym wedi cynnwys gwybodaeth ynglŷn â theithio gyda char, ar feic ac ar droed, yn ogystal â bws a thrên. Hefyd, os ydych yn teithio y tu allan i Gymru, rydym wedi darparu gywbodaeth i’ch cynorthwyo i ganfod y ffordd orau i gynllunio’ch siwrnai.
Ar y wefan, byddwch hefyd yn gweld dolen i broffil facebook Tarveline Tim; felly, gellwch fod yn ffrind swyddogol i’n masgot gwyrdd.
Rydym yn mawr obeithio y byddwch yn mwynhau ein gwefan newydd ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni ar marketing@travelinecymru.info.





