Lansio Ymgyrchoedd Hysbysebu Pellach
Yn ystod mis Chwefror lansiodd Traveline Cymru hysbyseb radio a hysbysebion yn y wasg ledled Gogledd Cymru. Bwriad yr ymgyrch hysbysebu, a redodd yn Ne Cymru yn gyntaf, yw codi ymwybyddiaeth am Traveline Cymru o fewn y rhanbarth. Bydd yr hysbyseb yn ymddangos mewn nifer o bapurau newydd a bydd yr hysbyseb radio yn cael ei chwarae ar orsafoedd radio ‘Coast’ a ‘Champion’.
Mae ein masgot gwyrdd, Traveline Tim, yn serenu yn ei hysbyseb teledu cyntaf un. Yn ystod y broses baratoi ar gyfer y rhan, rhoddodd Celf Creative ddelwedd newydd iddo. Dyma nhw’n cymryd y delweddau presennol o Tim ac yn ei drawsnewid i gymeriad 3D. I weld y Tim 3D, edrychwch am yr hysbyseb sy’n cael ei ddarlledu ar S4C ar hyn o bryd.
Cofiwch y gellwch ddod o hyd i Traveline Tim ar Facebook hefyd. Mae ganddo 800 o ffrindiau eisoes, ond mae wastad yn edrych am ffrindiau newydd.





