cartref > newyddion

Technoleg Newydd

27 CHWEFROR 2009

Mae Traveline Cymru wedi datblygu eitem newydd o dechnoleg o’r enw ‘Page Lander Wizard’. Mae’r teclyn defnyddiol hwn yn cynnig cyfle i arddangos cynlluniwr taith wedi’i addasu ar eich gwefan eich hun, a hynny yn rhad ac am ddim! Bydd yn cysylltu â data Traveline Cymru ac yn eich galluogi i ganfod sut i gyrraedd eich lleoliad heb orfod gadael eich safle eich hun.

Y gobaith yw y bydd y dechnoleg newydd yma’n ei gwneud hi’n haws i gynllunio teithiau ac annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gallai hyn ryddhau mannau parcio mewn safleoedd prysur a hefyd gwella’r amgylchedd.

I gael y teclyn ar gyfer eich gwefan, ewch i’r dudalen ‘cysylltu â ni’ ar ein gwefan a dilyn y cyfarwyddiadau syml. Yna, byddwch yn derbyn côd y bydd angen i chi ei gopïo a’i bastio i’ch gwefan. Mae’r teclyn hwn yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb. Am fanylion pellach, cysylltwch â marketing@travelinecymru.info os gwelwch yn dda.