Canolfan Alwadau Gymreig yn dod i’r brig ledled Prydain gyda’r siopwr dirgel!
Mae canolfan alwadau Traveline Cymru wedi cael ei chynnwys yn un o’r 4 uchaf ymhlith rhanbarthau Traveline ym Mhrydain am ei gwasanaeth i gwsmeriaid drwy ddarparu gwybodaeth ddwyieithog am drafnidiaeth gyhoeddus dros y ffôn. Llwyddodd canolfan alwadau Cymru i gyrraedd y brig ymhlith 11 rhanbarth Traveline ledled Prydain, gan ennill sgôr gyffredinol o 97%.
Gweithredir y ganolfan alwadau, sydd wedi’i lleoli ym Mhorthmadog, gan Galw ar ran Traveline Cymru, y gwasanaeth gwybodaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r ganolfan Gymreig yn rhannu’r safle cyntaf gyda rhanbarthau Gogledd Ddwyrain Lloegr, Gogledd Orllewin Lloegr a’r Alban.
Dywed Emma Griffith, Rheolwr Ansawdd yng nghanolfan alwadau Traveline Cymru, hyn am yr anrhydedd: “Mae pawb yma yn y ganolfan wrth eu boddau gyda chanlyniad y siopa dirgel hwn. Mae’r sgôr uchel yn brawf o waith caled a phroffesiynoldeb asiantwyr tîm brwdfrydig y ganolfan alwadau a’u harweinydd tîm.”
Dywedodd Graham Walter, Rheolwr Cyffredinol Traveline Cymru: “Mae Traveline Cymru yn ymdrechu i ddarparu’r gwasanaeth cwsmer gorau posibl a’r wybodaeth gywiraf i bobl Cymru, ac rydym yn hynod falch bod ymdrechion ein canolfan alwadau yn cael eu cydnabod gan y siopa dirgel hwn. Rydym yn annog y tîm i barhau gyda’r gwaith da!”





