cartref > newyddion

Stagecoach yn Ne Cymru yn buddsoddi dros £2m mewn fflyd newydd o fysiau ‘gwyrddach’

27 EBRILL 2009

Cychwynodd Stagecoach De Cymru yr ‘Wythnos Werdd Stagecoach’ gyntaf un ledled y DU wrth lansio fflyd newydd sbon o 17 o fysiau ‘gwyrddach’ yng Nghanol Caerdydd. Bydd y bysiau ‘ADL/MAN Enviro 300’ llawr-isel, mynediad hawdd yn gweithredu ar y gwasanaeth X4, sy’n rhedeg rhwng Henffordd a Chaerdydd, gan deithio drwy Y Fenni, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Phontypridd.  

Ceir gwedd newydd sbon i du mewn i’r bysiau a mynedfeydd heb ris sy’n galluogi cwsmeriaid i rolio cadeiriau olwyn, coetsys babannod neu drolïau siopa arnynt yn hawdd. Hon hefyd yw’r fflyd gyntaf o fysiau Stagecoach yng Nghymru sy’n cynnig technoleg Wi-Fi i’w chwsmeriaid. Mae’r bysiau’n meddu ar y dechnoleg injan glân ddiweddaraf, sy’n ateb safonau allyriant Ewro IV, sy’n cynorthwyo i dorri ar allyriant carbon a lleihau effaith amgylcheddol y gwasnaeth.  
 
Lansiwyd y fflyd newydd o fysiau yng Nghaerdydd gan John Gould, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru ynghyd â  Chris Franks, AC dros Ganol De Cymru, Nick Ramsay, AC dros Fynwy a’r Cyng. Kate Lloyd, Arglwydd Faeres Caerdydd i ddatgan eu cefnogaeth i’r gwelliant i wasanaeth llwybr X4, sy’n gwasnaethu eu hetholaethau. 

Yn ystod ei anerchiad yn y lansiad, dywedodd Chris Franks, AC Plaid Cymru dros Canol De Cymru: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu cysylltiadau trafnidiaeth gwell ledled Cymru. Bydd gwelliannau sylweddol i drafnidiaeth gyhoeddus yn annog pobl i gwtogi ar eu defnydd o geir. Bydd hyn yn ei dro yn gostwng ôl-troed carbon Cymru.”