cartref > newyddion

Ffordd newydd o ganfod amser eich bws nesaf

26 MAI 2009

Ffordd newydd o ganfod amser eich bws nesaf

Erbyn hyn gellwch dderbyn amserau eich bysiau nesaf wrth i chi fynd o gwmpas eich pethau BysiauNesaf  Traveline! Mae gwasanaeth newydd BysiauNesaf Traveline yn golygu y gellwch fynd ar-lein ar eich ffôn symudol i weld amserau gadael unrhyw fws o’ch arhosfan chi pryd bynnag y dymunwch!

Mae BysiauNesaf Traveline yn wasanaeth rhyngrwyd symudol newydd sy’n eich galluogi i edrych am arhosfan a chanfod pa fysiau sy’n gadael oddi yno. Y cyfan sydd angen ei wneud er mwyn derbyn llyfrnod ar gyfer y gwasanaeth ydy anfon neges destun i ‘Traveline’ ar 84268.

Unwaith y byddwch ar-lein gellwch edrych am eich arhosfan mewn nifer o wahanol ffyrdd. Gellwch deipio eich côd post, enw stryd neu dref neu gôd eich arhosafn bysiau os ydych yn ei wybod. Dangosir y canlyniadau ar fap i’ch cynorthwyo i ganfod yr un cywir. Yna, cliciwch ar frig yr enw i fynd yn syth i’r amserau gadael.

Dywed Tony Ferguson, Cyfarwyddwr Traevline UK, hyn am y gwasanaeth: “Nod Traveline ydy dosbarthu gwybodaeth trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ym mha bynnag ffordd y dymunant ei derbyn. Mae BysiauNesaf Traveline yn ein galluogi i ddosbarthu gwybodaeth yn uniongyrchol i gwsmeriaid wrth iddynt fynd o gwmpas eu pethau; pan fyddant ei angen fwyaf. Mae Traveline yn hynod falch o allu cynnig y gwasanaeth newydd cyffrous hwn i’n cwsmeriaid.”

Datblygwyd BysiauNesaf Traveline gan Kizoom Ltd. , sy’n rhan o CitySpace Ltd., sy’n flaenllaw iawn yn nhrosglwyddiad gwybodaeth trafnidiaeth gyhoeddus trwy gyfrwng technolegau newydd. Nod Traveline, gyda chymorth Kizoom a CitySpace, ydy darpau gwybodaeth trafnidiaeth gyhoeddus eglur a dealladwy i’r cyhoedd yn gyffredinol mewn amryw o ffyrdd a fydd yn cynorthwyo’r teithiwr adref ac wrth symud.

Mae Traveline hefyd yn gweithredu canolfannau galw a gwefannau yn rhanbarthol ledled y DU, lle gall pobl eu ffonio neu fynd ar-lein i ganfod y ffyrdd gorau o deithio, un ai ar fws, goets neu drên. Mae Traveline yn darparu gwasanaeth negeseuon testun hefyd, sy’n galluogi defnyddwyr i anfon côd eu arhosfan bysiau (sydd i’w weld yn yr arhosfan, ar y gwefannau rhanbarthol neu drwy gysylltu â’r ganolfan alwadau) i 84268 i ganfod amserau’r pedwar bws nesaf a fydd yn gadael yr arhosfan honno.

Am wybodaeth bellach am BysiauNesaf Traveline neu wasanaethau eraill Traveline, ymwelwch â www.traveline.info.