cartref > newyddion
Cyfle am Swydd – Edrych am Traveline Tim!
27 MAI 2009
Cyfle am Swydd
Mae Traveline Cymru yn edrych am berson i wisgo i fyny fel ein masgot, Traveline Tim, mewn nifer o wahanol ddigwyddiadau y flwyddyn hon.
Os ydych yn fodlon gwisgo i fyny mewn leicra gwyrdd a gwisgo stilts bychain a mwgwd, yna dyma’r swydd i chi!
Bydd y gwaith yn cynnwys mynychu nifer o sioeau teithiol, cynadleddau a digwyddiadau lansio, wedi gwisgo i fyny fel Traveline Tim.
Am wybodaeth bellach ac i ymgeisio am y swydd, e-bostiwch marketing@travelinecymru.info os gwelwch yn dda.
Edrychwn ymlaen i glywed oddi wrthych!





