cartref > newyddion

Rydym wedi gwella’n tudalennau ‘Cynllunio fy Nhaith’ ac ‘Amserlenni’!

23 MEHEFIN 2009

Yn dilyn cynnal cyfres o grwpiau ffocws i drafod ein gwefan newydd gyda’n cwsmeriaid, rydym wedi addasu a gwella’r tudalennau ‘Cynllunio fy Nhaith’ ac ‘Amserlenni’ i’w gwneud nhw’n llawer haws i’w defnyddio.

Mae adrannau allweddol wedi’u haddasu i wneud botymau yn fwy gweladwy, opsiynau’n fwy amlwg a sicrhau bod y broses o gynllunio teithiau a chwilio am amserlenni yn broses llawer symlach. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n llawer haws i ddod o hyd i’r wybodaeth y byddwn ei hangen!

I ymweld â’r tudalennau newydd, ymwelwch â ‘Cynllunio fy Nhaith’ neu’r ‘Amserlenni’.

Mynegwch eich barn yma ynglŷn â’r gwelliannau!