cartref > newyddion

Cynllun Deilen Arian - Gwyliau Seren Arian

30 GORFFENNAF 2009

Mae effaith bywyd dyddiol ar yr amgylchedd yn fater sydd o bwys mawr yn ein cymdeithas heddiw. Gall busnesau un ai osgoi’r mater neu ei wynebu'n gadarnhaol. Mae Gwyliau Seren Arian wedi penderfynu wynebu’r sefyllfa. Yn ystod haf 2008, lansiwyd ei cynllun arbennig, Cynllun Deilen Arian.  

Bwriad y cynllun ydy darparu coed i’r gymuned leol er mwyn cynrychioli pob un o’r 12,000 o deithwyr y mae’r cwmni’n eu cludo yn flynyddol. Mae Seren Arian yn sylweddoli y gallant wneud camau tuag at ostwng eu hôl troed carbon wrth wneud hyn, yn ogystal â rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau sydd wedi’i cefnogi dros yr holl flynyddoedd. Mae’r bobl a fydd yn cael budd o’r cynllun yn cynnwys: ysgolion, ysbytai, cymunedau a gerddi pentrefi, hosteli a llawer o brosiectau a grwpiau haeddiannol eraill. Cynhelir y prosiect ar y cyd â Chyngor Gwynedd, a darparwyd y coed gan feithrinfa goed leol ym Mharc Glynllifon.

Bu’r ymateb a’r gofyn am y coed yn enfawr. Crëwyd ymwybyddiaeth, nid yn unig ymhlith plant lleol ond hefyd ymysg oedolion, cymdeithasau a sefydliadau lleol, ynglŷn â materion amgylcheddol sy’n wynebu ein planed heddiw. Mae Seren Arian hefyd yn gobeithio, gyda chefnogaeth barhaol ein cwsmeriaid, y gellir plannu llawer iawn mwy o goed ledled Gogledd Cymru eleni. Cofiwch, bob tro y byddwch yn teithio ar Wyliau Seren Arian rydych yn darparu coeden i’r gymuned leol.