cartref > newyddion

Rydyn ni’n edrych am Gynorthwyydd Marchnata Uniongyrchol newydd

04 MEDI 2009

Mae Traveline Cymru yn chwilio am Gynorthwyydd Marchnata Uniongyrchol newydd rhan amser i ymuno â chwmni gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus sy’n ehangu’n gyflym.

Mae hon yn rôl newydd o fewn y cwmni â’r swydd wedi’i lleoli o fewn ein Tîm Marchnata yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd. Swydd rhan amser fydd hon i ddechrau (tridiau’r wythnos - hyblyg) gyda’r potensial iddi ddatblygu’n rôl neu’n swydd lawn amser (rhannu swydd).

Am wybodaeth bellach yngl?n â’r swydd, gweler y swydd ddisgrifiad a’r daflen nodweddion personol neu e-bostiwch marketing@travelinecymru.info.

Dylid ymgeisio yn ysgrifenedig drwy anfon copi o CV cyfredol  a llythyr cais sy’n egluro pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd, a’u hanfon at:

Jo Foxall

Rheolwr Marchnata

Traveline Cymru

PO Box 83

CF11 1NA

Edrychwn ymlaen i glywed oddi wrthych!