Cerdyn call newydd i drawsnewid y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru
Yn dilyn cwblhau’r broses o gyflwyno 650,000 o gardiau call ar gyfer teithio ar fysiau, dywedodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, y caiff y dechnoleg ei defnyddio yn y pen draw ar gyfer teithio ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus. Dywedodd y byddai’r dechnoleg newydd yn lleihau costau, yn gwella effeithlonrwydd ac yn sail i gael cerdyn trafnidiaeth gyhoeddus Cymru gyfan.
Dywedodd Mr Jones:
“Rwy’n falch iawn y bydd y system newydd hon yn ei lle ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth bws di-dâl ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Dyma ddechrau’r dechnoleg hon. Byddwn yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu’r cerdyn Hawliau Teithio Cymru er mwyn galluogi pobl i deithio ar holl wasanaethau bws a thrên Cymru gan ddefnyddio un cerdyn yn unig.
“Rydym eisoes wedi dechrau gosod rhai o’r 2,500 o beiriannau tocynnau newydd fydd yn gallu darllen y cardiau hyn ar fysiau ledled Cymru a’r disgwyl yw y bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen yn dda yn ystod y flwyddyn hon”.
Fel y nodwyd yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cyflwyno’r cerdyn Hawliau Teithio Cymru erbyn 2014.





