IOLO WILLIAMS YDYW LLYSGENNAD NEWYDD TRAVELINE CYMRU
Penodwyd Iolo Williams yn Llysgennad i Traveline Cymru. Mae Iola, a gaiff ei adnabod fel ‘Y Dyn
Adar’, yn un o arbenigwyr bywyd gwyllt amlycaf Cymru ac wedi cyflwyno nifer o raglenni natur yn Gymraeg, yn ogystal â bod yn wyneb Sioe Frenhinol Cymru 2009.
Mae Iolo’n cefnogi Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth am gludiant cyhoeddus Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn ymgais i godi proffil y cwmni a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt i gynorthwyo i gynyddu’r defnydd o gludiant cyhoeddus yng Nghymru a gostwng nifer y ceir sydd ar y ffyrdd.
Dywed Iolo: ‘Mae Traveline Cymru’n gwneud gwaith gwych yn darparu’r wybodaeth teithio a thrafnidiaeth gysylltiedig ddiweddaraf i’r cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru ac i ymwelwyr â’r wlad. Yn anffodus, nid oes digon o bobl yn gwybod am y gwasanaethau sydd ar gael, a fy rôl i ydy cynorthwyo i godi eu proffil. Wrth gwrs, fy niddordeb pennaf i ydy diogelu’r amgylchedd hardd a’r bywyd gwyllt sydd yng Nghymru, ac rwy’n cefnogi nod Traveline Cymru i hyrwyddo hynny drwy gael pobl allan o’u ceir a’u hannog i deithio ar fws neu drên, i gerdded neu feicio.’
Mae Traveline Cymru yn falch iawn o gael Mr Williams yn ymwneud â’r gwaith hwn, gan gredu y
bydd yn gaffaeliad mawr wrth hyrwyddo’r defnydd o ddulliau amgen o deithio i’r cyhoedd yng Nghymru. Dywed Cadeirydd Traveline Cymru, Allan Kreppel : ‘Mae Traveline Cymru’n hynod falch fod Iolo wedi cytuno i gefnogi ein hymdrechion i annog y cyhoedd i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, i feicio neu i gerdded yng Nghymru. Ein rôl ni ydy darparu’r wybodaeth y mae’r cyhoedd ei angen i gyflawni eu taith yn llwyddiannus yn y modd y dymunant, a bydd Iolo yn gaffaeliad gwych i’n cynorthwyo i wneud hynny.’
Bydd Iolo’n ymuno â Traveline Tim, masgot lycra gwyrdd y cwmni, i godi proffil gwasanaethau Traveline Cymru yng Nghymru mewn digwyddiadau megis Sioe Frenhinol Cymru, yn ogystal â nifer o ffeiriau glasfyfyrwyr Prifysgolion Cymru.
-DIWEDD-
Nodiadau i Olygyddion:
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Jo Foxall, Rheolwr Marchnata Traveline Cymru ar 029 2034 4593 neu ebostiwch jfoxall@travelinecymru.info.
Ariennir Traveline Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gweithredwyr Bysiau a Threnau ac Awdurdodau Lleol Cymru.
Mae Traveline Cymru yn darparu gwybodaeth drwy’r sianelau canlynol:
Y ganolfan alwadau ddwyieithog 0871 200 22 33 (cost galwadau’n 10c yn ogystal â chostau rhwydwaith ychwanegol)
Y wefan ddwyieithog www.travelinecymru.info
Gwasanaeth negeseuon testun ‘Traveline.txt’, lle gellir anfon amserau bysiau yn syth i’ch ffôn symudol.
‘Traveline NextBuses.mobi’, gwasanaeth gwe symudol sy’n eich galluogi i weld byrddau gadael unrhyw arhosfan bws yng Nghymru.




