cartref > newyddion

Cynllun twf gwasanaeth bws o ddrws-i-ddrws yn y Gymru wledig

21 RHAGFYR 2009

Mae gwasanaethau bws newydd sy’n codi teithwyr o ddrysau eu tai yng nghefn gwlad Cymru yn lwyddiant ysgubol, gyda chynlluniau i ehangu’r llwybrau y flwyddyn nesaf. 
Mae ‘Bwcabus’, sy’n costio £900,000 dros gyfnod o dair blynedd, wedi ei anelu at bobl sy’n byw oddi ar y llwybrau presennol.
Mae’n weithredol yn Nyffryn Teifi, gogledd Sir Gaerfyrddin a de Ceredigion.
Mae dros 4,000 o bobl wedi defnyddio gwasanaeth llai ‘Bwcabus’ ers iddo ddechrau ym mis Awst.
Mae oddeutu 500 o bobl wedi defnyddio’r gwasanaeth prif lwybrau mwy.
Nod ‘Bwcabus’ ydyw annog mwy o bobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus a gwrthdroi’r dirywiad hir dymor yn y defnydd o fysiau gwledig.
Yr Athro Stuart Cole, o Ganolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg ddyfeisiodd ‘Bwcabus’ ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Dywedodd y byddai llwybrau ychwanegol yn cael eu cyflwyno y flwyddyn nesaf.
 ‘Y Defnydd Gorau Posibl’
 “Y mae cyfuniad o amlder a chyfleustra wedi gwneud ‘Bwcabus’ yn llwyddiant,” meddai’r Athro Cole.
“Yr hyn oedd yn allweddol pan ddechreuwyd ar y prosiect, oedd gwella’r gwasanaeth bws gwledig am yr un swm o arian.
  “Mae bellach o fantais i rai cymunedau a fu heb wasanaeth bws am 10 mlynedd.”
Mae’r Athro Cole wedi cynnal trafodaethau gydag uwch-was sifil yngl?n ag ehangu’r prosiect y flwyddyn nesaf.
“Gellir gweld llwybrau eraill yn cael eu hychwanegu fel ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r cerbydau,” ychwanegodd.
 “Mae cynlluniau i drawsnewid llwybrau i’r ‘Bwcabus’ rhwng Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin i Lanymddyfri ac Aberteifi i Sanclêr.”
Mae pobl sy’n byw o fewn yr ardal ddynodedig yn ffonio rhif ffôn canolog i archebu bws a fydd yn aros yn agos iawn at eu cartrefi a’u gollwng mewn arhosfan bws ar brif lwybr.
Ym mis Awst, dywedodd swyddogion fod y gwasanaeth, sydd ar gael rhwng 0700 - 1900, Dydd Llun i Ddydd Sadwrn, y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Mae cyllid gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Ceredigion a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ariannu’r cynllun.

Ffynhonnell: Gwefan BBC Cymru/Wales 11/12/09