cartref > newyddion

Bydd teithwyr yn croesawu gwasanaethau trenau ychwanegol y Nadolig hwn

21 RHAGFYR 2009

Bydd teithwyr ledled Prydain yn falch iawn o glywed y newyddion heddiw y bydd mwy o drenau a llai o wasanaethau bws dros dro yn weithredol dros gyfnod y Nadolig.
 
Mae pwyllgor gwarchod annibynnol y teithwyr wedi croesawu ymrwymiad y diwydiant i ddefnyddio llai o wasanaethau amnewid dros dro yn lle trenau, gyda Network Rail a gweithredwyr trenau yn arwyddo llw ‘Passenger Focus’ i gadw teithwyr ar drenau ble bynnag y bo modd. 
 
Dywedodd Anthony Smith, Prif Weithredwr Passenger Focus: “Er bod buddsoddiad yn y rheilffordd yn bwysig, mae’n hanfodol bod gwaith peirianneg yn gorffen ar amser a bod teithwyr yn cael eu hysbysu’n gywir fel y gallant ystyried eu trefniadau teithio. Pan fo angen gwasanaethau bws dros dro, mae’n rhaid sicrhau eu bod yn hawdd ac yn gyfforddus i’w defnyddio. Hefyd, ni ddylai teithwyr orfod talu’r un pris â siwrnai mewn trên wrth deithio ar fws.”
 
Nododd y pwyllgor gwarchod teithwyr y bydd amhariad i deithwyr o ganlyniad i’r gwaith peirianneg sylweddol sy’n digwydd yn ardal De Cymru.
 
 “Fodd bynnag, bydd teithwyr sy’n bwriadu teithio rhwng De Cymru a Lloegr dros gyfnod y Nadolig yn cael eu cludo ar wasanaeth bws dros dro. Gwaetha’r modd, mae’n debyg na ellid cynllunio’r gwaith hwn i osgoi’r amhariad sylweddol hwn.” 
 
Bydd Passenger Focus, y pwyllgor gwarchod annibynnol, yn cadw llygad barcud i sicrhau bod amhariadau penodol i deithwyr yn cael eu lleihau i’r eithaf a bod gan deithwyr ddigon o wybodaeth a chymorth wrth gynllunio eu teithiau. Mae’r pwyllgor gwarchod hefyd yn trafod â Threnau Arriva Cymru, First Great Western a Network Rail i sicrhau bod strategaethau cyfathrebu yn eu lle i rybuddio teithwyr bod gwaith yn digwydd ac i ddarparu manylion trefniadau teithio amgen.

Diwedd
 
Nodiadau i Olygyddion
1. Dylid cyfeirio ymholiadau yngl?n â’r datganiad hwn i:
Krista Hamblin
0300 123 0821
krista.hamblin@passengerfocus.org.uk