cartref > newyddion

Bwrw ymlaen â phedestreiddio

06 IONAWR 2010

Bydd y gwaith hir-ddisgwyliedig o bedestreiddio un o briffyrdd Caerdydd yn dechrau ar neu o gwmpas yr 16eg o Ionawr, yn ôl y South Wales Echo.
Dywedodd y Cynghorydd Delme Bowen bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cadarnhau y bydd cyllid ar gael i fwrw ymlaen â phalmantu’r Stryd Fawr a Heol Santes Fair.
Bydd rhan gyntaf y gwaith, pan osodir palmant o safon uchel, yn dechrau ar ochr Castell Caerdydd o’r Stryd Fawr ac yn gorffen lle mae’r ffordd yn newid i fod yn Heol Santes Fair.
Dywedodd y Cynghorydd Bowen y bydd pob traffig, ac eithrio lorïau dosbarthu a’r bws ‘Free b’, yn cael eu gwahardd o’r ardal.
Ond efallai y bydd rhai tacsis yn cael mynediad.
Bydd y ddau gam nesaf yn digwydd yn ddiweddarach eleni.
“Bydd y cyfnod hwn o drawsnewid yn lletchwith i bobl sy’n masnachu yn yr ardal,” meddai Mr Bowen.
“Ond yn sicr bydd wedi ei orffen erbyn 2011.”
Ariannwyd y cynllun pedestreiddio hwn fel rhan o fenter Dinas Teithio Cynaliadwy.
Dywedodd Mr Bowen fod cadarnhad gan Lywodraeth y Cynulliad bod ail gyfran o gyllid Dinas Teithio Cynaliadwy - £7.5m – ar gael yng nghyllideb 2010 -2011, o’r diwedd wedi ei alluogi i roi caniatâd i’r prosiect.
Mae Cyngor Caerdydd yn cyfrannu oddeutu £700,000 tuag at y gost o bedestreiddio.
Dywedodd y byddai £2.5m wedi cael ei wario ar y Stryd Fawr a Heol Santes Fair rhwng 2009 a 2011.
Bydd masnachwyr hirymaros yn gobeithio y gall y cyngor wireddu ei addewid y bydd pedestreiddio’r stryd yn annog mwy o bobl i siopa yno.
Maent wedi cwyno bod eu busnesau wedi’u heffeithio’n ddrwg gan gynyrfiadau cyson ar y stryd er pan gyflwynwyd pedestreiddio rhannol yn gyntaf ym mis Awst 2007.
Bydd oddeutu £2.5m yn cael ei wario ar bedestreiddio’r Stryd Fawr a Heol Santes Fair.

4 Ionawr, 2010 gan Abby Alford, South Wales Echo