cartref > newyddion

Teithwyr yn derbyn tocyn i deithio ar reilffordd yr 21ain Ganrif i Dde Cymru

12 IONAWR 2010

 

Mae heddiw’n nodi cwblhad llwyddiannus rhan gyntaf y gwelliannau yn y cynllun buddsoddi enfawr mewn rheilffyrdd yn ardal Casnewydd, a fydd yn ehangu dibynadwyedd y 3m o deithiau rheilffordd a wneir yn flynyddol trwy Gyffordd Twnnel Hafren. 
Mae’r gwelliannau, a wnaed dros gyfnod gwyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, yn rhan o gynllun ailsignalu £150m yn ardal Casnewydd i gyflwyno rheilffordd yr 21ain ganrif i dde Cymru. Bu mwy na 400 o beirianwyr yn gweithio bob awr o’r dydd yn ddyddiol, gan lafurio am gyfanswm o thua 100,000 o oriau i gwblhau’r gwaith ar amser.
Dywedodd Chris Rayner, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail: “Mae Network Rail wedi llwyddo i gyflawni rhaglen waith hynod gymhleth ar y diwrnod yr addawyd. Cymerodd y rhan gyntaf hon o’r gwaith bron i bedair blynedd i’w gwireddu o gynfas i goncrit, ac mae’r canlyniad heddiw oherwydd gwaith caled ein peirianwyr a’n holl bartneriaid yn cydweithio i wneud hyn yn bosibl.   
 “Mae Cyffordd Twnnel Hafren ymysg y cyffyrdd rheilffordd prysuraf yng Nghymru ac yn ddolen allweddol i Loegr, ac mae bellach yn fwy cadarn i wasanaethu teithwyr yn ystod y degawdau niferus sydd i ddod. Rydym wedi cyflawni’n dda wedi degawdau o ddiffyg buddsoddi, a bydd yr ymdrech hon yn ne Cymru yn parhau i ateb gofynion cynyddol y rheilffordd.
Mae ail ran y cynllun hwn, sydd yn cynnwys ailsignalu Gorsaf Casnewydd ac ailfodelu cynllun y trac yng Nghyffordd Maendy, eisoes wedi dechrau ac mae disgwyl i’r gwaith ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd mwyafrif y gwaith yn cael ei gyflawni dros nos pan na fydd trenau’n rhedeg, er mwyn lleihau’r amhariadau i deithwyr.
Mae’r rheilffordd yng Nghyffordd Twnnel Hafren bellach wedi’i ailwampio’n llwyr gyda chynllun newydd sy’n cael gwared â thagfeydd yn yr ardal, ac a fydd yn torri ar oediadau ac yn cynnig cyfle i fwy o drenau i redeg yn y dyfodol.
Am y tro cyntaf mewn 25 mlynedd, bydd teithwyr sy’n teithio i Loegr yn cychwyn o blatfform 4 sydd newydd ei ailadfer; platfform a gafodd ei adael yn ystod yr 1980au.
Mae’r ganolfan signal newydd yng Nghaerdydd hefyd yn gweithredu am y tro cyntaf heddiw, wrth i dechnoleg ddigidol newydd sbon gael ei ddefnyddio i reoli gweithrediadau trenau rhwng Dwyrain Wysg (Casnewydd) a Pilning (Bryste). 
Adnewyddwyd cyfanswm o 81 o signalau, 10 pont signalau newydd, 168 o gyfrifwyr canfod trenau a 39km o geblau p?er hefyd rhwng Pilning (Bryste) a Dwyrain Wysg. Bydd yr uwchraddio yn ymestyn hyd bywyd yr isadeiledd rheilffordd am o leiaf bedwar degawd arall.
Bydd teithwyr hefyd yn elwa o lochesi aros newydd a system wybodaeth amser-real ddigidol yn yr orsaf fel rhan o fenter wahanol, a ariannwyd ar y cyd gan Network Rail, Trenau Arriva Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a SEWTA.
Dioddefodd y rheilffordd o amgylch Cyffordd Twnnel Hafren flynyddoedd o ddirywiad wedi iddi gael ei bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond mae’r cynllun hwn wedi gwrthdroi hanes Cyffordd Twnnel Hafren.  

 

Posted on: 4 Jan 2010 at 09:02 AM in Rail News