cartref > newyddion

Gwir ramant ar y Traciau?

16 IONAWR 2010

Rhannwch eich stori garu ar y trên am gyfle i ennill penwythnos i ddau ym Mhortmeirion.

Ydych chi wedi cyfarfod â’ch cymar oes ar drên? Ydych chi’n gofyn, o’r  diwedd, i’r person hwnnw yr ydych yn rhannu eich taith ddyddiol â nhw i fynd allan gyda chi?

Os felly, mae Trenau Arriva Cymru a Gwir Gewri Gogledd Cymru am glywed gennych wrth iddynt ymuno i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen ar 25ain Ionawr 2010, gyda chystadleuaeth arbennig i ennill penwythnos rhamantus i ddau ym Mhortmeirion yng ngogledd Cymru.

Darluniwyd trenau a gorsafoedd trenau ers blynyddoedd fel lleoliadau rhamantus mewn ffilmiau a hoffem glywed gan unrhyw un sydd wedi cyfarfod â’i gwir gariad yn un o’r lleoliadau hyn, drwy rannu eu hanesion rhamantus yn www.arrivatrainswales.co.uk . Caiff pob hanesyn ei gyflwyno i gystadleuaeth gyda chyfle i ennill gwobr arbennig a’r holl gostau wedi eu talu. Tynnir enw’r enillydd ar Ddiwrnod Santes Dwynwen ei hun.

Dethlir Diwrnod Santes Dwynwen ar 25ain Ionawr yn flynyddol – sef dydd y cariadon. Mae’n dathlu Dwynwen, sef Santes y Cariadon a merch i’r Brenin Brychan Brycheiniog a oedd yn byw yn y 5ed ganrif. Roedd Dwynwen yn byw yn Ynys Môn ac mae ei henw’n gysylltiedig ag enwau lleoedd, megis Llanddwyn hyd heddiw. Yn ôl yr hanes mae Dwynwen yn gweddïo y bydd Duw, drwyddi hi, yn gofalu am bob Gwir Gariadon.

Dywedodd Carole Sartin ar ran Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru: “Rydym yn hynod falch o’r hanes sy’n gysylltiedig â Santes Dwynwen yng Ngogledd Cymru a byddem wrth ein boddau yn clywed am hanesion a ddaw i’r amlwg fel rhan o’r fenter hon. Rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn i Portmeirion am ei gydweithrediad, a gwn y bydd yr enillydd yn cael penwythnos i’w gofio ym mhrydferthwch gogledd Cymru.”

Ychwanegodd Rebecca Fjelle, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Trenau Arriva Cymru: “Mae miloedd o bobl yn teithio ar rwydwaith Trenau Arriva Cymru yn ddyddiol, ac mae’n rhaid bod y niferoedd uchel hyn yn golygu bod rhai o’n teithwyr wedi cyfarfod ar drên, wedi bod yn caru, wedi priodi neu hyd yn oed wedi cael plant! Byddem wrth ein boddau yn clywed eich hanesion.”

Cyfarfu Connie Fisher, seren y West End â’i chymar ar drên, yn ogystal â Paul Potts (Port Talbot) o’r rhaglen ‘Britain’s Got Talent’. Dywed yr actores Ruth Jones, un o awduron ffilm Nadolig S4C, ‘Ar y Tracs’ eleni: “Rwy’n credu fod bod ar drên yn dod â rhywbeth allan mewn pobl, pa un ai ydych yn dymuno aros yn anhysbys neu os ydych yn ei weld fel llwyfan y gellwch berfformio arno.”