cartref > newyddion

Darganfod Cymru a’r Gororau y Gaeaf hwn

18 IONAWR 2010

Mae gan deithwyr 55 mlwydd oed neu h?n reswm da i wenu yn 2010, gan fod Trenau Arriva Cymru wedi ailgyflwyno’r hyrwyddiad Clwb 55 (hyd 19eg Mawrth), gan alluogi pobl i deithio i unrhyw le ar ei rwydwaith am £15 (dychweliad) yn unig.

Wedi cyflwyno’r hyrwyddiad rhwng mis Medi a Rhagfyr 2009, derbyniwyd ymateb anhygoel gan deithwyr, ac felly penderfynwyd ailgyflwyno’r cynllun yn 2010 ac mae Trenau Arriva Cymru bellach wedi ymuno â phartneriaid twristiaeth a llety, megis Gwir Gewri a Gwesty Dewi Sant yng Nghaerdydd i gynnig cynigion a gostyngiadau pellach i ddefnyddwyr Clwb 55.

Rydym wedi cwblhau rhestr o ddigwyddiadau ac atyniadau sy’n werth ymweld â nhw ar y rhwydwaith, felly beth am ddarganfod rhywbeth newydd yn 2010:
1.    Y sêls yng nghanolfan siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd
2.    Ymweld â phentref ysblennydd Clough Williams-Ellis, sef Portmeirion (rhad ac am ddim hyd 1af Mawrth)
3.    Ewch â’r wyrion i weld y ‘Moscow State Circus’ yn Venue Cymru
4.    Cynheswch gydag ymweliad â Distyllfa Wisgi Penderyn
5.    Cynlluniwch ein gwyliau haf gyda syniadau o’r Sioe Gychod a Charafanau yn yr NEC
6.    Cerddwch i anghofio iselder ysbryd y gaeaf ar hyd Taith Goffa’r Arglwydd Crawshaw yn Llanwrtyd (6ed Chwefror)
7.    Cymerwch benwythnos o gwrs hwylio yng Nghanolfan Plas Menai
8.    Cewch eich synnu yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (rhad ac am ddim hyd 27ain Mawrth)
9.    Darganfyddwch y traethau prydferth a’r llwybrau anhygoel ar hyd Arfordir y Cambria
10.  Ymunwch â pharhad y trechaf yng Ng?yl Darwin, yn Amwythig (12-14eg Chwefror)

Dywedodd Vanessa Schotes, Pennaeth Marchnata, Trenau Arriva Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn ymholiadau gan deithwyr i ailgyflwyno hyrwyddiad Clwb 55 yn 2010. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn parhau i fwynhau’r pris tocyn arbennig hwn. 
 “Mae defnyddio’r trên yn ffordd wych a chynaliadwy i archwilio rhannau newydd o Gymru a rhanbarthau’r Gororau. Mae’r tocyn hwn yn berffaith ar gyfer taith i Ganolfan Siopa Dewi Sant newydd yng Nghaerdydd neu i ymweld â nifer o ddigwyddiadau arbennig sy’n cael eu cynnal ledled y rhwydwaith.

 “Drwy weithio â phartneriaid, megis Gwir Gewri a Gwesty Dewi Sant, rydym yn gobeithio y gallwn gyflwyno cynigion pellach i ddefnyddwyr ein Clwb 55.”

Dywedodd Dewi Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth Ranbarthol, Partneriaeth Gogledd Cymru: “Mae cefnogaeth Trenau Arriva Cymru i Gwir Gewri drwy ei fenter lwyddiannus Clwb 55, yn ffordd wych i annog mwy o ymwelwyr i deithio ar drenau ac i fwynhau diwylliant a threftadaeth Gogledd Cymru mewn modd cynaliadwy. Mae cefnogaeth yr atyniadau hefyd yn allweddol ac wedi sicrhau ein bod yn gallu cyflwyno cynigon arbennig a ddylai elwa twristiaeth yn y rhanbarth yn gyfan gwbl dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd Linda Crunkhorn, Rheolwr Ariannol a Chytundebau Twristiaeth Canolbarth Cymru: “Mae Twristiaeth Canolbarth Cymru yn gefnogol iawn i’r fenter hon, gan gynnwys tocyn Clwb 55, sy’n annog pobl i deithio ar drenau, gan gynnwys Llinell Arfordir y Cambria yn ein rhanbarth ni, gan ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.”

Dywedodd Adele Tibbot, Cyfarwyddwr Gwerthiant, Gwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd: “Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o’r hyrwyddiad Clwb 55 newydd hwn, gan weithio mewn partneriaeth i gynnig prisiau ffafriol i bobl 55 a h?n, i’w hannog i deithio gyda Threnau Arriva Cymru i Gaerdydd, sy’n lleoliad gwych gyda nifer fawr o atyniadau, a chwblhau eu hymweliad â De Cymru drwy aros yng Ngwesty a Sba 5* Dewi Sant.”