Gwasanaeth Trên Rygbi Newydd
Lansiwyd trên rygbi newydd, sy’n golygu y gall cefnogwyr rygbi Cymru deithio’n haws i Dwickenham ar gyfer gêm Lloegr v Cymru ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad ar y 6ed o Chwefror.
Bydd y gwasanaeth newydd hwn, o’r enw ‘Big Match Direct’, yn cludo cefnogwyr yn uniongyrchol o Orsaf Canol Caerdydd i Orsaf Hounslow, sy’n daith 10 munud ar droed o stadiwm Twickenham. Nid yn unig mae hyn yn golygu y bydd cefnogwyr yn cyrraedd y gêm awr ynghynt nag wrth deithio mewn modd arall, ond ni fydd rhaid iddynt fynd drwy ganol Llundain na newid trên chwaith.
Bydd gwasanaeth troli ym mhob cerbyd ar y trên a cherddorion a chyn-chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru yn darparu adloniant cyn ac wedi’r gêm ar gyfer y cefnogwyr sy’n teithio. Dywedodd David Weatherly, cyn-chwaraewr rygbi i dîm Abertawe a Chyfarwyddwr ‘Big Match Direct’: 'Nid oes y fath wasanaeth yn bodoli ar hyn bryd ar gyfer cefnogwyr rygbi ac felly gwelsom gyfle i wneud teithio ar ddiwrnod gêm yn brofiad pleserus. Gobeithiwn y bydd cefnogwyr rygbi ar draws De Cymru yn ymuno â ni am ddiwrnod gwych i wylio Cymru yn ymgiprys yn erbyn ei gelyn pennaf.”
Ychwanegodd Stuart Davies, cyn-chwaraewr rhyngwladol i Gymru a sylwebydd gyda’r BBC: “Mae hon yn ffordd wych o ddileu’r holl ffwdan o drefnu cludiant ar ddiwrnod gêm. Gall pobl fwynhau’r achlysur a gwneud y diwrnod yn un fwy arbennig, ac nid yw tocyn trên ‘Big Match Direct’ yn ddrytach na theithio ar y gwasanaeth arferol - gan gostio £76 (y ddwy ffordd) sy’n cynnwys sedd fwrdd. Mae tocynnau corfforaethol hefyd ar gael am £158+TAW sy’n cynnwys derbyniad siampaen, bar di-dâl a phrydau bwyd wedi’u gweini yn ystod y daith yno ac yn ôl.
Am fanylion pellach, ymwelwch â www.bigmatchdirect.co.uk
Ffynhonell: gwefan Gleision Caerdydd 12/01/10




