cartref > newyddion

Cerdded a beicio i dderbyn hwb o £150,000

25 IONAWR 2010

Mae llwybrau cerdded a beicio ym Mlaenafon i dderbyn hwb o £150,000 os ydy cais am welliannau i gludiant yn llwyddiannus.
Mae Cyngor Torfaen, drwy’r South East Wales Transport Alliance (SEWTA), yn ymgeisio am gyllid gan Gynulliad Cymru i wella’r cysylltiadau rhwng yr atyniadau twristiaeth a chanol y dref. 
Os yw’r cais yn llwyddiannus, bydd gwell arwyddion ac isadeiledd fel bod cerddwyr a beicwyr yn cael mynediad haws i atyniadau, gan gynnwys ‘Pwll Mawr’, y Gweithfeydd Haearn a Chanolfan Treftadaeth y Byd.
Dywedodd y Cynghorydd John Cunningham, Aelod Gweithredol o’r Gwasanaethau Gweithredol: “Byddai’n wych petawn yn derbyn y cyllid, gan y byddai’n darparu hwb mawr i breswylwyr, beicwyr, cerddwyr a thwristiaid yn ardal Blaenafon.
“Byddai unrhyw gyllid yn annog byw’n iach ac yn sicrhau cyswllt gwell i atyniadau twristiaeth yn y dref.”
Mae’r cynlluniau ar gyfer Blaenafon yn gynwysedig yng nghynllun 5 mlynedd Sewta a disgwylir cyhoeddiad am y cyllid yn fuan.
Ar wahân i’r cais hwn drwy SEWTA, mae’r Cyngor eisoes yn bwriadu gwneud gwelliannau i gludiant yng ngogledd Torfaen.
Mae cyllid o £200,000 gan Gynulliad Cymru yn ariannu astudiaeth sy’n edrych ar ffyrdd o wella’r isadeiledd.
AECOM (‘Faber Maunsell’ yn flaenorol) sy’n cynnal yr astudiaeth ar ran y Cyngor. Prif amcan yr astudiaeth ydy asesu’r ystod lawn o welliannau cludiant posibl rhwng Pont-y-p?l a Thalywain. 
Bydd yr astudiaeth yn edrych ar ffyrdd o gynyddu cyfleoedd i gael mynediad i waith o fewn y fwrdeistref a thu hwnt, a chynorthwyo tyfiant Safle Treftadaeth y Byd, Blaenafon fel lleoliad twristiaeth.
 
Ffynhonnell: gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 20/1/10