Adroddiad y Cynulliad eisiau trenau cyflymach yng Nghymru
Ni ddylai CYMRU gael ei gadael ar drên araf i wasanaeth trenau gwell, yn ôl adroddiad o’r Cynlluniad heddiw.
Trenau cyflymach, gan gynnwys trydaneiddio llinell arfordirol Gogledd Cymru, a gwell gorsafoedd yw rhai yn unig o’r argymhellion a wneir gan y pwyllgor Menter.
Gwelwyd y gellid gostwng amserau teithio rhwng Gogledd a De Cymru gyda mwy o fuddsoddiad.
Wrth roi tystiolaeth, dadleuodd yr arbenigwr ar drafnidiaeth Yr Athro Stuart Cole, y byddai’n bosibl cyflawni cyflymderau o 100mya ac amser teithio o 3 awr 15 munud o Fangor i Gaerdydd, pe bai £120m yn cael ei fuddsoddi mewn gwelliannau llinell gyflym.
Ond nid oes unrhyw gynlluniau i fuddsoddi’n sylweddol yn isadeiledd y rheilffordd y tu hwnt i ddyblu’r trac rhwng Wrecsam a Chaer.
Dywed Gareth Jones, AC Aberconwy a Chadeirydd y pwyllgor: “Mae’r adroddiad hwn yn archwilio dyfodol hir dymor y rhwydwaith rheilffordd yng Nghymru.
“Mae’r dystiolaeth yr ydym wedi ei gasglu yn dangos y bydd traffig cludiant nwyddau a theithwyr ar ein rhwydwaith yn cynyddu dros y blynyddoedd sydd i ddod.
“Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu ar gyfer y galw ychwanegol hwn a bod Cymru’n elwa o gysylltiadau rheilffyrdd cyflymdra-uchel.
“Mae angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru hefyd i gydweithio gyda phartneriaid i wella’r cysylltiadau a’r gwasanaethau rheilffordd rhwng Gogledd a De Cymru ac i wneud gorsafoedd yn gwbl hygyrch i bawb.”
Ffynhonnell: Daily Post 25 Ionawr 2010




