cartref > newyddion

Traveline Cymru Yn Cynorthwyo Teithwyri Droi Dalen Newydd

11 MAWRTH 2010

Mae Traveline Cymru yn cynorthwyo teithwyr i droi dalen newydd gyda lansiad eu hymgyrch farchnata newydd sbon.  

Lansiwyd ymgyrch ‘Dalen Newydd’ ledled Cymru i annog teithwyr i ddewis opsiynau teithio mwy cynaliadwy ac i fynd yn wyrdd yn 2010. Mae’r hysbysebion deniadol a gynlluniwyd gan limegreentangerine yn cael eu defnyddio ar fyrddau arddangos, cefn bysiau a gollyngiadau drwy’r drws ar gyfer yr ymgyrch integredig hon.

Gosodwyd yr hysbysebion byrddau arddangos a chefn bysiau yn ofalus ar lwybrau teithio teithwyr er mwyn targedu marchnadoedd allweddol na fyddent o bosibl yn gwybod lle i droi am wybodaeth teithio.  Bydd yr ymgyrch gollwng drwy’r drws yn cael eu dosbarthu ledled Abertawe, Aberystwyth a Wrecsam er mwyn codi ymwybyddiaeth yn yr ardaloedd hyn.

Dyma’r tro cyntaf i Traveline Cymru lansio ymgyrch ar y raddfa hon.  Gobeithir y bydd yr hysbysebu hwn yn ei gwneud hi’n haws i bobl sydd yn teithio mewn ceir ar hyn o bryd i ganfod pa ddewisiadau cludiant cyhoeddus eraill sydd ar gael iddynt.

Drwy naill ai ymweld â gwefan Traveline Cymru neu ffonio Traveline ar 0871 200 22 33, mae’n bosibl canfod yr wybodaeth ddiweddaraf am bob taith leol a chenedlaethol ledled Cymru. Yn ogystal â chynorthwyo teithwyr i droi’n wyrdd, gall hefyd eu cynorthwyo i osgoi problemau parcio, tagfeydd traffig a’r cynnydd mewn costau tanwydd.

Traveline Cymru ydy’r gwasanaeth gwybodaeth am gludiant cyhoeddus yng Nghymru, sy’n sicrhau y gall teithwyr, a’r cyhoedd yn gyffredinol, ganfod yr holl wybodaeth sydd ei angen i wneud penderfyniadau deallus wrth deithio.

48 sheet