cartref > newyddion

Golygfeydd Gorau Cledrau'r Cambrian Ar Ffilm

19 MAWRTH 2010

Gwelwyd trawsnewid i swyddfa docynnau Gorsaf Rheilffordd Y Drenewydd dros y penwythnos i fod yn sinema lle lawnsiwyd nid un, ond dau ffilm yn dangos y golygfeydd gorau o gledrau’r Cambrian!


Gwahoddwyd cynulleidfa ddethol i’r digwyddiad ar nos Wener y 12fed o Fawrth pan ddaeth ffilmiau Gwyliwr Glannau a Gwyliwr Gwlad Y Cambrian ag ychydig o hudoliaeth Hollywood i ganolbarth Cymru! Mae’r ffilmiau yn hyrwyddo’r golygfeydd gwych ac amrywiol sydd i’w weld o ffenestr y trên ar rwydwaith rheilffordd y Cambrian gyda’r gobaith o ysgogi gwylwyr i fynd ati i roi cynnig ar y profiad go iawn!

film premier


Mae’r ffilmiau sydd â chyfeiliant cerddorol gwreiddiol wedi eu cynhyrchu gan gwmni lleol Dimension Studio, sef y cynhyrchydd ffilmiau Charlotte Durie a’r cyfansoddwr Dexter Jones. Dywedodd Charlotte yn y lawnsiad, “Roedd yn wir bleser gweithio ar y prosiectau yma. Mae gennym rhai o’r golygfeydd arfordirol gorau yn y Deyrnas ac mae cerddoriaeth Dexter wir yn adlewyrchu’r prydferthwch a’r emosiwn yma.”


Cynhyrchwyd y ffilmiau hyrwyddo byr ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) gydag un yn dangos y golygfeydd ar y linell rhwng Yr Amwythig ac Aberystwyth a’r llall ar y linell rhwng Machynlleth a Phwllheli.


Yn ôl Lembit Öpik, yr Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn, "Mae teithio ar drên wastad wedi cynnig awgrym o ramant ac enigma. Mae’r ffilmiau yma yn cyfleu hyn mewn modd mwyaf atgofus.  Mewn byd lle mae’r pwyslais ar arian a mesuriadau, mae naws y cynhyrchiadau yma yn atgof o’r amser pan roedd pobl yn dal i wethfawrogi y pleser syml o sylwi ar harddwch a sirioldeb y byd.  Mae’n olwg ar y presennol, sy’n cyfeirio â’r gorffennol i gyd wedi ei osod i rhythm y rheilffordd.  Bydd unrhyw un sy’n gweld y ffilmiau yma am ymweld â Chymru – a hynny drwy ddefnyddio’r trên."


Yn dilyn y digwyddiad lawnsio mae’r ffilmiau ar gael i’w gwylio o’r wefan www.leinycambrian.co.uk


Yn ogystal â’r ffilmiau, mae’r PRC yn ddiweddar wedi lawnsio tywyswyr clywedol MP3 lle gellir ei lawrlwytho sy’n dweud wrth bobl beth maent yn gweld allan o ffenestr y trên wrth iddynt deithio. Cynhyrchwyd rhain sydd yn profi’n boblogaidd iawn gan y darlledydd cydnabyddus Tim Richards ac maent ar gael i lawrlwytho am ddim o’r wefan.

Ar ran PRC meddai Gerwyn Jones, “Blwyddyn ddiwethaf cynhaliwyd digwyddiad yma yn Y Drenewydd i ddathlu 150 o flynyddoedd o’r rheilffordd yn yr ardal – mae’n wych yn awr drwy weithio gyda phobl lleol ein bod yn medru cynhyrchu’r ffilmiau yma a’r tywyswyr clywedol a thrwy ddulliau cyfathrebu modern i ledu’r gair yn gallu cyrraedd cynulleidfa enfawr am ein rhan arbennig o’r byd a’i rheilffordd.”


Llywydd y noswaith oedd Mr. Peter Compton, perchennog Newtown Station Travel, a ddywedodd “Mae’n wych medru trefnu digwyddiad hwyl cymdeithasol fel hyn sydd yn cysylltu’r rheilffordd â’r gymuned y mae’n ei wasanaethu yn ogystal â hyrwyddo teithio ar drenau wrth gwrs!”


Yn cynhyrchu’r ffilmiau a’r tywyswyr clywedol derbyniodd PRC gefnogaeth gan Bartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru – amserir lawnsio’r ffilmiau i gyd fynd ag Wythnos Twristiaeth Cymru sy’n cychwyn ar ddydd Llun y 15fed o Fawrth 2010.