cartref > newyddion

‘Gwelliannau i gludiant yng Nghymru am fod yn fwy gwyrdd’

01 EBRILL 2010

Nod cynllun cludiant pum mlynedd yng Nghymru ydy ateb y galw tra’n gwneud teithio yn fwy gwyrdd. 
 
Wrth i’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, lansio fersiwn terfynol cynllun cludiant cyhoeddus, addawodd system a fyddai’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
 
“Rwy’n ymrwymedig i ddarparu system gludiant ddatgarboneiddiedig, lle gall pobl ddewis dulliau iachach a mwy cynaliadwy o deithio,” meddai.
  
“Rydym yn gweithio i wella gwasanaethau bws a thrên. Ein nod hefyd ydy cynyddu’r nifer o bobl sy’n cerdded neu’n beicio, a thrwy ein rhaglen o Ganolfannau Teithio Cynaliadwy, byddwn yn buddsoddi mewn llwybrau cerdded a beicio newydd, yn ogystal â chysylltu'r rhai presennol.”
 
Mae’n awyddus i wella dibynadwyedd, safon a chyflymder trenau ac i wella amserau a diogelwch teithiau ar y prif briffyrdd, ar lwybrau o’r dwyrain i’r gorllewin ac o’r gogledd i’r de.
 
Mae gwasanaeth ’Y Gerallt Gymro’, sef y gwasanaeth trên cyflym o Gaergybi i Gaerdydd, a’r rhaglen o welliannau parhaus i wasanaethau trenau rhwng gogledd a de Cymru hefyd yn flaenoriaethau.
 
Bydd gwelliannau ffyrdd yn cychwyn erbyn 2011, ar yr A470 yn Llanrwst a’r A487 ym Mhorthmadog, Minffordd a Thremadog.
 
Ffynhonnell: 30 Mawrth, 2010 gan Tom Bodden, Daily Post