cartref > newyddion

NextBuses ar gyfer yr iPhone yn Llwyddiant Ysgubol yn yr App Store

09 EBRILL 2010

Y mae’r cymhwysiad “NextBuses”, gan Malcolm Barclays, wedi profi’n llwyddiant ysgubol yn yr iTunes App Store. Cyrhaeddodd i Rif 8 yn siartiau’r DU, 4 diwrnod yn unig wedi ei ryddhau, a bellach, ef yw’r cymhwysiad teithio sy’n gwerthu orau. 

Mae NextBuses yn darparu gwybodaeth amserau gadael arosfannau bws, coets a threnau ledled Lloegr, Yr Alban a Chymru. Mae’r cymhwysiad yn defnyddio gwasanaeth NextBuses Traveline, sydd hefyd ar gael ar eich ffôn symudol fel gwasanaeth WAP neu drwy wasanaeth SMS Traveline:

 “Rydw i erioed wedi bod eisiau troi iPhone yn fwrdd amserau gadael ar gyfer unrhyw arhosfan bws. Rhoddodd Traveline fynediad i mi i’r data er mwyn i mi adeiladu’r cymhwysiad hwn, ac mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel” meddai Barclay.

Gall NextBuses arddangos cymysgedd o wybodaeth amser gadael rhestredig ac amser real (lle bo ar gael) yn seiliedig ar leoliad y defnyddiwr, côd post neu ardal y maent yn ei fewnbynnu. Mae nifer o wasanaethau amser real ar gael yng Nghymru.

Dywedodd Graham Walter, Rheolwr Cyffredinol Traveline Cymru: “Mae’r cymhwysiad hwn yn cynnig ffordd newydd i gysylltu â’r farchand gynyddol o ddefnyddwyr iPhone. Mae’n cymryd cam ymlaen wrth i ni barhau i wella mynediad at wybodaeth am gludiant cyhoeddus yng Nghymru.”

Mae’r cymhwysiad ar gael yn awr yn siopau iTunes am 59c.