Bws Gwennol Maes Awyr yn dirwyn i ben
Mae’r bws gwennol sy’n cludo teithwyr rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a gorsaf drenau cyfagos, Y Rhws, yn dirwyn i ben ddiwedd mis nesaf.
Dywed penaethiaid y maes awyr nad yw’r gwasanaeth yn hyfyw yn ariannol mwyach, pedair blynedd wedi i Lywodraeth y Cynulliad wario £17m yn ailagor yr orsaf.
Credir bod y penderfyniad i dorri ar y cyllid yn rhannol o ganlyniad i Lywodraeth y Cynulliad bellach yn addo cyllid ar gyfer cyswllt bws newydd o ganol Caerdydd.
Cadarnhaodd siaradwr ar ran y maes awyr y bydd y prosiect yn dod i ben ar 31 Mai 2010.
“Rydym yn siomedig ein bod yn gorfod gwneud hyn gan ein bod yn llwyr gefnogol i gludiant cyhoeddus,” meddai.
“Fodd bynnag, fel cwmni preifat, nid yw’n hyfyw bellach i barhau i ariannu’r gwasanaeth nad yw’n effeithio ar nifer teithwyr y maes awyr.”
Mae hyn yn digwydd pedair blynedd yn unig wedi i Lywodraeth y Cynulliad wario £17m ar ailagor gorsaf Y Rhws ar lein Bro Morgannwg.
Dywedodd Jeff James, aelod cabinet dros drafnidiaeth Cyngor Bro Morgannwg, y byddai’r penderfyniad i atal y gwasanaeth bws yn golygu y byddai teithwyr yn gorfod talu am dacsis er mwyn gallu cyrraedd y maes awyr heb orfod defnyddio car.
Dywedodd: “Roedd y ffaith bod y maes awyr yno yn ddadl wych er mwyn ailagor yr orsaf drenau, felly mae’n drist iawn bod y cyswllt hwn yn dod i ben. Bydd teithwyr yn mynd heibio’r orsaf, ond nid yw hynny’n beth da i’r teithwyr.
“Mae’n si?r y bydd yn cynnig cyfle i gwmni tacsi mentrus i gynnig gwasanaeth, ond bydd yn rhaid i bobl dalu, rhywbeth nad oes rhaid iddynt ei wneud ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd Mr James ei fod yn credu bod y penderfyniad i dorri ar gyllid wedi dod o ganlyniad i Lywodraeth y Cynulliad yn addo cyllid ar gyfer cyswllt bws newydd o ganol Caerdydd.
Ond gwrthododd siaradwr ar ran Lywodraeth y Cynulliad gadarnhau a oedd hynny’n wir, nac a fyddai gwennol newydd yn debygol o weithredu o ganol y ddinas ai peidio.
Dywedodd: “Caiff y gwasanaeth bws ei ariannu gan weithredwr y maes awyr ac nid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Eu penderfyniad nhw ydyw os ydynt am gyllido’r gwasanaeth ai peidio.
“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol fod gweithredwr y maes awyr yn ystyried atal y cyswllt-bws rhwng y maes awyr a’r Rhws a byddwn yn gweithio â nhw a’r awdurdod lleol i edrych ar sut y gellir cyd-weithio i gadw’r gwasanaeth yn fyw.”
Ychwanegodd siaradwr ar ran y maes awyr eu bod yn cyd-weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad a chyngor Bro mewn ymdrech i leddfu pryderon teithwyr a chanfod dewis arall. Awgrymodd hefyd bod bws gwennol i ganol y ddinas yn bosibl.
“Yn y cyfamser, mae Maes Awyr Caerdydd wedi’i chalonogi gan y posibilrwydd o gyswllt bws mwy rheolaidd rhwng y maes awyr a chanol y ddinas,” meddai.
“Mae’r prosiect hwn yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac rydym yn rhagweld y bydd y gwasanaeth hwn sydd wedi’i wella, yn cychwyn yn yr hydref, 2010.”
Source: Apr 9 2010 by Sam Malone, South Wales Echo





