Ni fydd angen aelodaeth campfa arnoch i ddod yn fwy heini
Mae'r Gwanwyn yma o'r diwedd sy'n golygu diwrnodau hwy, awyr las, a'r cyfle perffaith i ddefnyddio eich amser teithio dyddiol i losgi rhai calorïau ychwanegol.
Er mwyn eich helpu i wneud hynny mae Sustrans, elusen trafnidiaeth gynaliadwy flaenaf y DU, newydd lansio 'e-gynghorion Cymudwyr Byw', e-fwletin rheolaidd sy’n cynnwys awgrymiadau da a chyngor hwylus ar wneud beicio a cherdded yn rhan o'ch taith gymudo ddyddiol. Cliciwch yma i gofrestru a darganfod rhagor.
Pam na wnewch chi hefyd annog cydweithwyr, ffrindiau a theulu i fanteisio i’r eithaf ar yr haf fydd yma’n fuan a rhoi cynnig ar Gymudo Byw drwy:
Anfon yr e-bost hwn ymlaen at bawb ar eich rhestr cysylltiadau
Anfon yr e-bost hwn ymlaen at eich holl gydweithwyr, neu bawb o'ch staff drwy e-bost 'staff cyfan’
Ei anfon at eich ffrindiau a'ch teulu drwy e-bost neu wefannau rhwydwaith cymdeithasol
Cynnwys dolen ar eich porthol staff (os oes gennych un) / ar eich gwefan / ar eich tudalen Facebook neu Twitter: www.sustrans.org.uk/activecommuter
Mae'r ymgyrch e-gynghorion Cymudwyr Byw wedi ei chynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i bobl feicio neu gerdded i'r gwaith, i'r brifysgol neu goleg, drwy gyfres o e-byst a chyngor arbenigol ar gyfer 'cymudwyr byw' newydd neu rai sy'n ail-gydio ynddi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am ymgyrch Cymudwr Byw cysylltwch ag Angela Spiteri, Uwch Swyddog Marchnata Sustrans Cymru: angela.spiteri@sustrans.org.uk
Angela Spiteri, Sustrans





