15,000 o lefydd parcio a theithio ar gyfer y Cwpan Ryder
Bydd cyfleusterau parcio a theithio yn weithredol ar gyfer cefnogwyr golff y Cwpan Ryder eleni.
Bydd tir yng ngweithfeydd dur Llanwern gynt yn cael ei ddefnyddio i ddal hyd at 12,000 o geir a fydd yn teithio o ddwyrain Lloegr, tra bydd maes parcio estynedig yn Nh? Tredegar yn darparu gofod ar gyfer hyd at 3,000 o geir a fydd yn cyrraedd o’r gorllewin i’r Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar ail-wynebu’r ddau safle a disgwylir cwblhau’r gwaith erbyn diwedd mis Mai.
Bydd y ddau safle yn cynnwys cyfleusterau diogelwch a gwirio tocynnau ar gyfer pobl fydd yn teithio ar fysiau i’w cludo i’r digwyddiad trwy gyffyrdd pwrpasol ar yr A449.
Dywedodd Richard Hills, cyfarwyddwr y Cwpan Ryder: ‘Bydd y digwyddiad dan ei sang, sy’n golygu y bydd hyd at 30,000 o bobl yn symud drwy’r ddau safle bob dydd, ac rydym yn awyddus iawn bod pob un ohonynt yn cael amser da.’
Source: Western Mail, 20th April 210





