cartref > newyddion

Tocynwyr bws newydd y ddinas yn ateb y galw

10 MAI 2010

Mae tocynwyr bysiau yn dychwelyd i gludiant cyhoeddus yn Abertawe - ac yn hytrach na chasglu tocynnau, maent yn darparu gwybodaeth twristiaeth ac yn cynnig gwersi hanes.


Mae tîm o ‘westywyr gwasanaeth cwsmer’ a gyflogwyd i weithredu fel llysgenhadon twristiaeth ar gyfer Bae Abertawe, bellach ar fflyd newydd o fysiau’r ddinas.


Yn ogystal â chymryd tocynnau ar y rhwydwaith bws newydd, a gaiff ei adnabod yn swyddogol fel ‘FTR Metro’, mae’r tîm o 17 gwestywr wedi dysgu Cymraeg sylfaenol yn ogystal â hanes a llên gwerin Cymru.


Cyn iddynt dderbyn y gwaith, roedd angen iddynt arddangos gwybodaeth fanwl am gyfleusterau ac amwynderau Abertawe i sicrhau eu bod yn medru ateb cwestiynau teithwyr.


Mae arbenigwyr o Adran Dwristiaeth a Marchnata Cyngor Abertawe wedi cynnal sesiynau hyfforddi gyda’r gwestywyr i ehangu eu gwybodaeth yngl?n ag atyniadau’r ardal.


Dywedodd siaradwr ar ran Cyngor Abertawe: ‘Mae hyn yn golygu bod gwestywyr wrth law i ateb cwestiynau wrth deithio ac i gyfeirio pobl at atyniadau sy’n ateb eu gofynion yn ogystal â chasglu tocynnau.


 ‘Fe anogwyd y gwestywr hefyd i fynd o gwmpas Abertawe ac ymweld ag atyniadau’r ddinas fel eu bod yn medru eu hargymell yn bersonol i ymwelwyr  yn y dyfodol.’


Cyngor Abertawe, cwmni teithio ‘First Cymru’ a chwmni hyfforddi ‘Gallu’ sy’n gweithredu’r cynllun.
Dywedodd Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, Cyngor Abertawe: ‘Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio’n agos â phartneriaid allanol yn y sector trafnidiaeth ac o fod yn gallu cynnig ein cymorth a’n mewnbwn i’w cynlluniau prosiect.


 ‘Mae’r cysylltiadau cludiant i ac o fewn Bae Abertawe yn chwarae rôl sylfaenol ym mhrofiad cyfan yr ymwelydd o’r lleoliad ac mae’n hanfodol bwysig ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd i’w datblygu mewn modd effeithiol a chynaliadwy.’


Ychwanegodd Tony McNiff, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru:  ‘Caiff ein gwestywyr hyfforddiant trylwyr cyn cychwyn ar y gwaith, ond mae ymwybyddiaeth o leoliadau twristiaeth lleol a’r gallu i gynnig gwybodaeth a chyngor i gwsmeriaid, os ydynt yn gofyn, yn hanfodol.’


 ‘Mae ymwelwyr yn gofyn yn aml iddynt am wybodaeth yngl?n â llefydd i ymweld â nhw, felly mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen gref y gallant adeiladu ymhellach arno.


 ‘Rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan ein holl staff a fynychodd.’
Cafodd yr FTR Metro yn Abertawe ddechreuad dadleuol iawn, gyda’r angen am waith isadeiledd gwerth £10m ar gyfer y cerbydau 60tr o hyd, gan achosi amhariadau sylweddol.
Cyhuddodd perchnogion busnes y gwaith ffyrdd o gadw pobl rhag ymweld â chanol dinas Abertawe.


I gychwyn, beirniadwyd y fflyd newydd o gerbydau, a gostiodd £320,000 yr un, am beidio â chael darpariaeth ddigonol ar gyfer yr anabl.


Ond Dydd Gwener ddiwethaf, profodd y bysiau piws newydd, a ddechreuodd weithredu ym mis Medi y llynedd, eu poblogrwydd pan groesawyd y miliynfed teithiwr ar ei bwrdd. Derbyniodd Kirsty Rowles, myfyrwraig 20 oed sy’n astudio Saesneg ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ‘docyn aur’ yn cynnig teithiau bws am ddim iddi ledled De Cymru am flwyddyn gyfan.


Dywedodd Mr McNiff: ‘Mae’r Metro wedi perfformio’n eithriadol o dda ers ei lansiad yn Abertawe.
 ‘Mae’r niferoedd teithwyr ac adborth cwsmeriaid yn dda, gyda phobl yn hoff o’r cynllun mewnol a’r amserau teithio cyflymach.


 ‘Derbyniwyd y cyfaniad gwell rhwng gwasanaethau bysiau a threnau hefyd yn dda, gyda phobl yn defnyddio gwasanaethau i deithio yn eu blaenau o’r orsaf drenau, yn enwedig teithio i’r Brifysgol ac oddi yno, a Stabiwm Liberty.’ 


26 Ebrill 2010 gan Robin Turner, Western Mail