Parcio a Theithio i leddfu problem draffig
Gyda phryderon am dagfeydd traffic o ganlyniad i waith parhaus ar bont newydd Maesdu, mae trefnwyr Swae Fictorianaidd Llandudno yn ddiolchgar am gynllun parcio a theithio a ddarparwyd gan Fysiau Arriva ar gyfer y penwythnos.
A hwythau’n ymwybodol y bydd amcangyfrif o 300,000 o bobl yn ymweld â’r dref yn ystod yr ?yl dri diwrnod, sy’n cychwyn ar 30 Ebrill, mae’r trefnwyr ac Arriva wedi cyd-weithio i ddarparu’r cyfleuster parcio a theithio.
‘Rydym yn falch iawn bod Arriva wedi penderfynu cyflwyno’r gwasanaeth hwn gan y bydd o gymorth i leddfu tagfeydd traffig i mewn ac allan o’r dref yn ystod y penwythnos,’ meddai’r Cynghorydd Greg Robbins, Cadeirydd y Swae.
‘Bydd arwyddion ar hyd yr A55 yn cyfeirio gyrwyr at y safle parcio a theithio ac rydym yn gobeithio y bydd llawer ohonynt yn manteisio ar y cynllun’.
Bydd ceir yn medru parcio drwy’r dydd yng Ngholeg Llandrillo ar Ffordd Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos am £5 y cerbyd, a bydd bysiau’n gweithredu gwasanaeth gwennol rhad ac am ddim i'r arhosfan bws ger Asda a Llys Ynadon Llandudno, ac oddi yno, bob hanner awr rhwng 8yb a 8.30yh.
‘Dyma’r tro cyntaf i ni weithredu gwasanaeth fel hwn mewn cydweithrediad â’r Swae, ac rydym yn hapus iawn o fod yn gallu cynorthwyo gyda’r broblem traffig disgwyliedig o ganlyniad i gau Pont Maesdu,’ meddai Keith Anglesea, Rheolwr Cyffredinol Bysiau Arriva yng Ngogledd Cymru. Dywedodd fod y cwmni yn ddiolchgar iawn am gydweithrediad Coleg Llandrillo drwy iddynt sicrhau bod ei maes parcio ar gael.
‘Mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer parcio a theithio, a bydd o gymorth i wirio traffig o ffyrdd eraill i mewn i Landudno,’ ychwanegodd.
Hefyd, bydd gwasanaeth gwennol rhad ac am ddim yn gweithredu gan fysiau o dras rhwng G?yl Trafnidiaeth Llandudno ar Gaeau Bodafon a chanol y dref.
Ffynhonell: Weekly News, Dydd Iau, 22 Ebrill 2010.





