Ffocws, Camera, Saethu! Cofnodwch Galon ac Enaid Cymru er mwyn ennill gwobrau gwych
Yn 2010 mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed. Fel rhan o’r dathliadau mae Sustrans, ynghyd ag ymgyrch Calon ac Enaid y Cymoedd yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth a ffilm fer yng Nghymoedd godidog De Cymru.
Er mwyn cymryd rhan, cofnodwch eich profiadau unigryw ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn y Cymoedd â chamera neu ar ffilm o fewn thema ‘pobl, lleoedd neu fywyd gwyllt’.
Nid yn unig y caiff pobl gyfle i archwilio perlau cudd Cymoedd De Cymru gan ddefnyddio ein rhwydwaith gwych o lwybrau di-draffig sy’n rhedeg drwy rai o dirweddau mwyaf dramatig, a heibio i adeiladu eiconig a thirnodau hanesyddol Prydain, mae hefyd cyfle i ennill gwobrau gwych:
Gwyliau beicio Saddle Skeddadle i 2
Pedair noson i hyd at 10 person yn Windways Neuadd Afan (llety hunanarlwyo moethus 4* yn Nyffryn Afan)
Talebau gwerth £200 ar gyfer siopau beic yn y Cymoedd - Dare Valley Cycles a The Bicycle Doctor
Diwrnod ar set gyda'r Cyfarwyddwr Ffilm o Gymru sy’n brysur dod yn enw, Ryan Andrews
Print wal cynfas 20” wrth 30” o ffotograff o'ch dewis wedi ei fframio o Colour Labs yng Nghaerffili
Sesiwn portreadau mewn stiwdio gan Derek G Lewis
Caiff y ffotograffau a’r ffilmiau byr buddugol eu harddangos yn yr Eisteddfod eleni. David Hurn, un o ffotograffwyr uchaf ei fri Cymru, a’r cyfarwyddwr ffilmiau o Gymru sy’n brysur dod yn enw, Ryan Andrews, fydd yn arwain y paneli beirniadu.
Mae cystadleuaeth Ffocws, Camera, Saethu yn agored i bawb. Mae'n ymwneud â mwynhau'r rhwydwaith a chael hwyl, felly beth bynnag fo'ch oedran, profiad neu safon eich camera, rydym am i chi gymryd rhan, ac yn fwyaf oll darganfod, mwynhau a dathlu rhwydwaith bendigedig o lwybrau cerdded a beicio di-draffig ledled y Cymoedd.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.thevalleys.co.uk/SightsCameraAction





