cartref > newyddion

TRAVELINE CYMRU YN CIPIO GWOBR TRAFNIDIAETH GYMREIG

18 MAI 2010

Mae Traveline Cymru, gwasanaeth am gludiant cyhoeddus yng Nghymru, wedi cipio gwobr fawreddog yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth eleni a gynhaliwyd ddydd Gwener yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. 

Cyflwynwyd y wobr gan y cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, am ail-frandio’r cwmni a’r prosiect datblygu gwefan. Datblygodd y prosiect ddelwedd y brand a’r wefan i elfennau modern, dynodedig, sy’n eglur i’r cwsmer ac yn hawdd ei ddefnyddio. 

Noddwyd y wobr gan ACT Travelwise ac eglurwyd i Traveline ennill gan iddynt ‘ddefnyddio Rhodri Morgan presenting Traveline Cymru Marketing Manager, Jo Foxall with the Award  technegau marchnata masnachol, ac am eu hapêl a chysondeb y deunyddiau hyrwyddo a chyfryngau newydd.’ 
Ariennir Traveline gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i ddarparu gwybodaeth teithio a chludiant cydgysylltiol a diduedd i’r cyhoedd yng Nghymru drwy gyfrwng canolfan alwadau, gwefan a gwasanaethau symudol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones: “Y mae Traveline Cymru wedi profi i fod o fantais fawr i deithwyr ledled Cymru ers ei lansio deng mlynedd yn ôl ac rwy’n hynod o falch o glywed am ei gyflawniad arbennig.” 
Mynychodd Iolo Williams, Llysgennad Traveline Cymru, y digwyddiad a dywedodd: ”Rwy’n falch iawn bod Traveline Cymru yn cael cydnabyddiaeth am ei waith caled o ddatblygu ei frand a’i wefan, sy’n cynorthwyo’r cyhoedd yng Nghymru mor dda. Dylai’r tîm fod yn hynod falch ac rwyf wrth fy modd o gael bod yma yn y digwyddiad gyda nhw i ddathlu eu llwyddiant.”

Dywedodd Jo Foxhall, Rheolwr Marchnata, a fu’n rheoli’r prosiect: “Rydyn ni wrth ein boddau o dderbyn y wobr hon. Mae’n brawf o waith caled tîm Traveline Cymru, ein hasiantaeth ddylunio, ‘limegreentangerine’ a thîm y we yn SpinDogs, yn ystod y 18 mis diwethaf. Dau beth yn unig ydy’r ddelwedd brand a’r wefan o’r hyn sy’n digwydd yn Traveline Cymru ac mae llawer mwy i ddod!”