CYSYLLTU CYMRU GYDA ‘CYMRU CONNECT’
Heddiw, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn partneriaeth â Traveline Cymru yn lansio tocyn trên newydd sbon yng Nghymru, sef Cymru Connect.
Mae’r tocyn newydd hwn, Cymru Connect, yn galluogi teithwyr i archebu taith trên i lefydd yng Nghymru na fu modd eu cyrraedd o’r blaen ar y rhwydwaith drenau, er enghraifft Aberaeron a’r Wyddgrug, mewn un taith gan ddefnyddio un tocyn.
Mae Cymru Connect yn gweithio drwy ymgorffori llwybrau bysiau allweddol yng Nghymru i’r rhwydwaith drenau, sy’n golygu bod teithwyr yn gallu archebu tocynnau o unrhyw orsaf drên yn y DU a bydd tocyn yn cynnwys eu teithiau trên a bws.
Bydd Cymru Connect o fudd i gwsmeriaid gan y byddant yn gallu cyrraedd llefydd yng Nghymru na fu modd eu cyrraedd yn y gorffennol yn dilyn cau nifer o linellau rheilffordd gan Dr Beeching yn y 1960au.
Mae Cymru Connect hefyd yn sicrhau bod teithwyr yn derbyn teithiau bysiau a threnau mwy cost effeithiol yn hytrach na theithiau trên hir a chostus yn aml, sydd ar brydiau yn mynd â nhw allan o’u ffordd i gyrraedd eu cyrchfan.
Yn syml, bydd Cymru Connect yn galluogi teithwyr i wneud trefniadau teithio gwell ar gyfer eu teithiau o amgylch Cymru.





