Cymerwch ran yn ymgyrch Sustrans, ‘Newid Eich Byd’
Mae ymgyrch newydd ‘Newid Eich Byd’ gan Sustrans yn gofyn i bobl i addo taith ar droed, ar feic neu ar gludiant cyhoeddus rhwng 1 Mehefin a 4 Gorffennaf 2010. Bydd pob taith a addewir yn cyfrif tuag at sialens gyffrous ‘O Amgylch y Byd’, a chyda’n gilydd, byddwn yn ceisio addo digon o deithiau lleol ar droed, ar feic neu ar gludiant cyhoeddus i gyfri’r milltiroedd sydd eu hangen i deithio'r holl ffordd o amgylch y byd – cyfanswm o 24,900 milltir.
Y neges syml ydy, pe baem i gyd yn dewis gwneud mwy o deithiau heb gar, byddem yn mwynhau teithiau iachach, awyr glanach, ffyrdd tawelach a llefydd gwell i fyw ynddynt.
Dylai sefydliadau sydd â diddordeb mewn annog gweithwyr i deithio’n fwy cynaliadwy i’r gwaith ac yn dymuno trafod syniadau yngl?n â sut i gymryd rhan yn ‘Newid Eich Byd 2010’, gysylltu â ni ar changeyourworld@sustrans.org.uk neu ein ffonio ar 0117 915 0125.
Tîm ‘Newid Eich Byd’, Sustrans Cymru





