HYD AT £10,000 I ANNOG TEITHIO MWY GWYRDD
Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig grantiau hyd at £10,000 i sefydliadau, ysgolion neu golegau sy’n awyddus i gymryd rhan mewn teithio cynaliadwy ac sy’n gallu cyflwyno cynllun teithio effeithiol.
Fel rhan o’r Fenter Trefi Teithio Cynaliadwy cyfredol, a gaiff ei chydariannu gan Lywodraeth y Cynulliad, bydd y grantiau ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus a all arddangos y bydd eu cynlluniau’n gallu lleihau’r nifer o bobl sy’n gyrru i’r gwaith eu hunain neu fynd â phlant i’r ysgol mewn car.
Mae menter Trefi Teithio Cynaliadwy bellach yn dechrau ar ei hail flwyddyn gyda’r nod o ostwng tagfeydd a llygredd yng Nghaerdydd, a chynnig mwy o gyfleoedd i ddinasyddion ac ymwelwyr gyda’r wybodaeth gywir i’w galluogi i deithio’n ddiogel drwy gerdded, beicio, cludiant cyhoeddus a rhannu ceir.
Mae ymrwymo sefydliadau lleol yn hanfodol a gellir defnyddio’r arian grant i gefnogi darparu cyfleusterau, megis canolfannau gwybodaeth teithio, parcio beics, loceri, hyfforddiant beics neu gynlluniau rhannu ceir. Ceir gwybodaeth bellach yn:
www.keepingcardiffmoving.co.uk .
Dywedodd y Cynghorydd Delme Bowen, Aelod Gweithredol dros Drafnidiaeth: “Mae Trefi Teithio Cynaliadwy yn gynllun hanfodol sy’n cynnwys nifer o wahanol gydrannau, sy’n cydweithio i gadw ein dinas i symud a lleihau llygredd. Mae’n gwbl hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant yn y dyfodol ac mae ymrwymiad sefydliadau ledled y ddinas yn fonws enfawr. Profodd y llynedd i fod yn llwyddiant ysgubol ac rwy’n ffyddiog y bydd nifer yn defnyddio’r cyfle hwn i ddod atom am gefnogaeth ariannol a chyngor eleni hefyd.”
Roedd Canolfan Mileniwm Cymru yn un o’r sefydliadau a lwyddodd gyda’i chais am grant yn ystod 2009.
Dywedodd Leonie Wallace, Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr: “Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn awyddus i hyrwyddo beicio i’r gwaith fel rhan o’i hymrwymiad i leihau effaith y sefydliad ar yr amgylchedd a chreu cyfleoedd ar gyfer gwella iechyd a lles staff. Bydd y grant o £10,000 a ddyfarnwyd yn ddiweddar i Ganolfan Mileniwm Cymru gan Gyngor Caerdydd o dan y cynllun grant ‘Cadw Caerdydd i Symud’ yn ein galluogi i wella ein cyfleusterau beiciau. Bydd hefyd yn ein cynorthwyo i hyrwyddo beicio ymysg ein staff a holl gwmnïau preswyl y Ganolfan.
“Mae’r cyllid wedi ein galluogi i brynu lloches parcio beics, beic rhannu ychwanegol ac ategolion ar gyfer bag bachu y gall cymudwyr beiciau eu defnyddio os ydynt yn anghofio eu hoffer eu hunain neu angen trwsio pynjar. Bydd y grant hefyd yn ariannu ein diwrnod hybu BEICIO I’R GWAITH blynyddol pan rydym yn gwahodd Hyfforddiant Beicio Cymru i gynnal hyfforddiant beicio a sesiynau Dr Bike, sy’n cynorthwyo beicwyr newydd i ailafael yn eu beiciau a magu hyder.”
Gwahoddir ymgeiswyr i drafod eu cynigion cyn ymgeisio. Dylid cysylltu â’r Cyngor ar travelplans@cardiff.gov.uk neu 02920 873722. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am gyllid ydy Dydd Gwener, 4ydd Mehefin 2010.
Swyddog y Wasg, Cyngor Caerdydd, Mike Jackson





