cartref > newyddion

Yr Awyr Agored Gwych yn Nyffryn Nedd – ar Fws!

27 MAI 2010

Gorwelion newydd yn agor ar gyfer teithwyr bysiau o ganlyniad i dymor llwyddiannus yn 2009. Mae partneriaeth cludiant cynaliadwy, BayTrans, unwaith eto yn cynnig cefnogaeth ariannol i fws cyswllt ar y Sul o Abertawe a Chastell Nedd i Ddyffryn Nedd eleni.

Bydd posibl cyrraedd dwy daith gerdded ar Gamlas Castell-nedd, Rhaeadr Melincwrt, St Illtyd - Eglwys o’r 6ed Ganrif yn Llanilltud a thiroedd rhaeadrol anhygoel Pontneddfechan ar y bws X5. Ceir bonws hefyd o gysylltiad i rwydwaith Beacons Bus, sy’n ychwanegu Bragdy Wisgi Penderyn a Chanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol - oll ar docyn un diwrnod!

Wrth groesawu’r gwasanaeth newydd, dywedodd Cynghorydd Sir Resolfen, Des Davies: “Rwy’n falch iawn y bydd mwy o ymwelwyr yn cael eu hannog i ymweld ag atyniadau niferus Dyffryn Nedd ar fws, a bydd trigolion y dyffryn yn cael cyswllt uniongyrchol i’r Beacons Bus poblogaidd am y tro cyntaf.”

Ychwanegodd John Davies, Swyddog Prosiect BayTrans: “Mae hwn yn gam pwysig ymlaen yn ein hyrwyddiad o fynediad mwy cynaliadwy i gefn gwlad mewn cydweithrediad â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, ac rydym wedi sicrhau cytundeb i gysylltu â rhwydwaith lwyddiannus Beacons Bus.”

Dywedodd Kevin Hart, Cyfarwyddwr Masnachol First Cymru, gweithredwyr gwasanaeth X5: “Rydym yn falch i fod yn gysylltiedig â’r fenter hon sy’n cynnig cyfleoedd newydd o deithio i’n cwsmeriaid yng Nghastell-nedd a’r dyffrynnoedd.”

Am fanylion pellach, cliciwch yma.

Ffynhonnell: John Davies, Swyddog Prosiect BayTrans