cartref > newyddion

£1 y dydd am deithio ar fws o amgylch y dre’ (gan gynnwys i ac o’r orsaf drenau).

03 MEHEFIN 2010

Ydych chi’n teithio ar fws neu drên yn ystod mis Mehefin? Yna, ewch ar-lein nawr a phrynu tocyn diwrnod PLUSBUS am £1 y dref, gyda’ch tocyn trên. Mae tocyn dydd PLUSBUS yn rhoi cyfle anghyfyngedig i chi deithio ar fysiau ar lwybrau bws penodol o amgylch ardal drefol gyfan y lleoliad a/neu dref(i) cyrchfan eich siwrnai drên.  

Mae tocynnau dydd PLUSBUS am £1 ar gael ar gyfer 270 o drefi a dinasoedd ledled Prydain.

Gellir ond prynu tocynnau dydd PLUSBUS am £1 ar-lein o hyn hyd ar 30 Mehefin 2010 (yn gynwysedig) o’r gwefannau canlynol:
www.arrivatrainswales.co.uk
www.crosscountrytrains.co.uk
www.eastmidlandstrains.co.uk
www.firstcapitalconnect.co.uk
www.firstgreatwestern.co.uk
www.nationalexpresseastanglia.co.uk
www.qjump.co.uk
www.scotrail.co.uk
www.southwesttrains.co.uk
www.thetrainline.com
www.tpexpress.co.uk
www.virgintrains.co.uk   
                            
Rhaid i chi deithio ar fws neu drên yn ystod Mehefin 2010 i fanteisio ar y cynnig.

Amodau a Thelerau’r Cynnig

NID YW gwefannau eraill sy’n gwerthu tocynnau trenau yn cymryd rhan yn hyrwyddiad ar-lein tocynnau dydd PLUSBUS am £1. 

Bydd tocynnau dydd PLUSBUS a brynwyd mewn swyddfeydd tocynnau gorsafoedd, dros y ffôn ac o beiriannau hunanwasanaeth mewn gorsafoedd yn costio’r pris arferol (fel yr hysbysebwyd yn nhaflenni hyrwyddo PLUSBUS sydd mewn gorsafoedd).

Nid oes DIM gostyngiadau pellach ar gael i blant neu ddeiliaid Cardiau Rheilffordd gyda hyrwyddiad ar-lein tocynnau dydd PLUSBUS am £1.

Cyrchfannau Eithriedig
NID yw’r trefi canlynol yn gynwysedig yn y cynnig ar-lein am docyn dydd PLUSBUS am £1:
Blackpool, Maidenhead, Newbury, Casnewydd (De Cymru), Reading a Swindon.
Os ydych yn prynu tocynnau dydd PLUSBUS ar-lein ar gyfer y 6 tref a restrir (uchod), byddant yn costio’r pris arferol (fel yr hysbysebwyd yn nhaflen hyrwyddo PLUSBUS sydd mewn gorsafoedd).

Source: Jonathan Radley, Plusbus