cartref > newyddion

Gwelliannau i Orsaf Fysiau Canol Caerdydd

11 MEHEFIN 2010

Y mae disgwyl i waith ddechrau'r wythnos nesaf ar uwchraddio Gorsaf Fysiau Canolog Caerdydd.
Mae’r gwaith yn cynnwys cyfleusterau eistedd gwell, toi, llorio a goleuo, yn ogystal â gwelliannau i wybodaeth gyhoeddus a phwyntiau cyswllt.

Bydd gwaith yn dechrau ar Ddydd Llun, 7fed Mehefin a disgwylir iddo bara am bedair wythnos. Mae disgwyl i’r gwasanaethau Bws Caerdydd canlynol gael eu heffeithio:

• 95
• X91
• teithiau Llun i Gwener, gyda’r nos, a holl deithiau dyddiau Sul ar wasanaethau 92 a 94

Bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu symud i stand JQ yn Wood Street.

Bydd mynedfeydd newydd yn cael eu cyflwyno yn yr orsaf, gyda mynedfeydd newydd i standiau D, E a F a chyfleusterau croesi gwell sydd â diogelwch gwell i gerddwyr at bob stand.

Bydd darpariaeth well o wybodaeth am fysiau ar gael ar ochr ddwyreiniol (nesaf at Greggs) ac ar ochr ddeheuol (Sgwâr Canolog) yr orsaf, sy’n arddangos manylion cyrhaeddiad ac ymadawiad pob bws. Yn ychwanegol, bydd manylion bysiau sy’n gadael pob stand yn cael eu harddangos ym mynedfa’r stand.

Mae staff Gwybodaeth Cludiant Cyhoeddus hefyd yn cael eu cyflwyno a byddant ar gael i ateb cwestiynau aelodau’r cyhoedd parthed bysiau. Bydd staff yn bresennol hefyd yn y ciosg gwybodaeth newydd, a fydd yn darparu gwybodaeth glir a chynhwysfawr i deithwyr.

Mae’r gwaith yn ffurfio rhan o ymdrechion parhaus y Cyngor i gadw Caerdydd i symud drwy ddarparu gwasanaeth cludiant cyhoeddus hawdd i gael mynediad iddo, dibynadwy, rheolaidd a fforddiadwy. Bysiau ydy’r modd mwyaf tebygol o roi terfyn ar yr arfer o ddefnyddio ceir a bod yn ffordd fwy cynaliadwy o deithio, ac felly, mae gwelliannau i wasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hanfodol bwysig.

Dywedodd y Cyng. Delme Bowen, Aelod Gweithredol dros Draffig a Thrafnidiaeth: “Ein nod ydy annog mwy o bobl i ddefnyddio bysiau yng Nghaerdydd i’n cynorthwyo i ostwng tagfeydd a llygredd drwy’r ddinas. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth barhaus o gyfnewidiadau bws/trên effeithiol, ac adnoddau cysylltiedig ar gyfer gwasanaethau coetsis pellteroedd hir i gael eu cadw yn agos i Orsaf Drenau Canol Caerdydd, fel eu bod yn integreiddio’n effeithiol â  gwasanaethau trenau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.”

Ffynhonnell: Andrea Currie, Cyngor Caerdydd