Bysiau newydd 70 sedd ar gontractau bysiau ysgol
Mae Lloyds Coaches nawr wedi prynu dau gerbyd newydd 70 sedd er mwyn gweithredu ar ddau
gontract bws ysgol newydd yn ardal Aberystwyth.
Mae’r ddau fws o’r gwneuthur Plaxton Profile ar siasi Dennis Javelin. Mae’r ddau gerbyd gyda 70 sedd coets, gwregysau diogelwch a sustem 7 camerâu cylch cyfyng. Mae’r cerbydau hefyd i’r fanyleb Euro 5 yn nhermau manyleb allyriad injan.
Dywedir llefarydd ar ran y cwmni “Rydym yn fodlon dros ben i gyflwyno’r cerbydau hyn ar y contractau
bysiau ysgol newydd rydym nawr yn eu gweithredu ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
Mae’r cam yr ydym wedi ei gymryd i gyflwyno bysiau newydd yn tystio ymrwymiad ein cwmni i gyflwyno gwasanaethau o ansawdd i’r disgyblion sydd yn teithio ar y bysiau, i’w rhieni a hefyd i Gyngor Sir Ceredigion a hefyd yr un pryd yn cymryd i ystyried yr amgylchedd yn nhermau manyleb allyriad Euro 5 injan y cerbydau. Pan nad yw’r bysiau hyn yn gweithredu ar fysiau ysgol meant ar gael i’w llogi rhwng yr amserau hyn, yn cynnwys penwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol”.

Amgaeaf er eich sylw luniau cychwynnol y tynnwyd o’r cerbydau, sydd hefyd ar gael ar ein gwefan
www.lloydscoaches.com
Gellir cael gwybodaeth bellach am y cerbydau drwy gysylltu gyda Lloyds Coaches ar 01654 702 100
neu dros e-bost i info@lloydscoaches.com.
Source: Richard Jones, Lloyds Coaches





